News Centre

Cabinet Caerffili yn cymeradwyo gweledigaeth newydd ar gyfer addysg

Postiwyd ar : 02 Rhag 2022

Cabinet Caerffili yn cymeradwyo gweledigaeth newydd ar gyfer addysg
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo strategaeth addysg newydd yn unfrydol – ‘Dilyn rhagoriaeth gyda’n gilydd’.

Cafodd y strategaeth ei datblygu yn dilyn proses hunanasesu drylwyr ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys staff a dysgwyr ledled lleoliadau addysgol.

Mae deuddeg amcan allweddol ar gyfer y tair blynedd nesaf wedi'u cynnwys yn y strategaeth.  Mae'r rhain yn cynnwys darparu dulliau cadarn o ddiogelu, gwella arweinyddiaeth, cyflymu cynnydd dysgwyr sy’n agored i niwed, gwella presenoldeb, a lleihau gwaharddiadau, gwella darpariaeth ôl-16 oed, a chau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng dysgwyr o wahanol gefndiroedd.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau, “Rydyn ni'n cydnabod effaith y pandemig ar addysg a dysgwyr; nod y strategaeth hon yw ail-osod blaenoriaethau addysgol ar gyfer Caerffili ar ôl Covid, gan hefyd ddeall yr heriau y mae dysgwyr yn eu hwynebu o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

“Nod ‘Dilyn rhagoriaeth gyda’n gilydd’ yw datblygu ymhellach diwylliant o ymddiriedaeth, perthnasoedd gwaith cryf ac angerdd dros wneud gwahaniaeth i holl ddysgwyr y Fwrdeistref Sirol.
 
“Mae partneriaeth yn allweddol i’n gweledigaeth ac mae’r strategaeth yn nodi ymrwymiad clir i chwilio am ragoriaeth, ei hyrwyddo a'i rhannu ledled ein system addysg er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau