News Centre

Ffair y Gaeaf olaf y flwyddyn Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llwyddiant ysgubol, gan dorri record nifer yr ymwelwyr

Postiwyd ar : 14 Rhag 2022

Ffair y Gaeaf olaf y flwyddyn Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llwyddiant ysgubol, gan dorri record nifer yr ymwelwyr
Mae Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf olaf a gafodd ei chynnal yng Nghanol Tref Bargod ar ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr wedi cael ei hystyried yn llwyddiant ysgubol gyda nifer eithriadol, ychydig dros 7,000, o ymwelwyr yn bresennol. Dyma’r nifer uchaf o ymwelwyr ar gofnod i fynychu digwyddiad ym Margod.

Er bod y tywydd yn oer ac yn ffres, daeth miloedd i fwynhau Ffair y Gaeaf olaf 2022. Gyda dros 5,500 yn fwy o bobl yn y dref o gymharu â’r dydd Sadwrn blaenorol, hwn hefyd oedd diwrnod prysuraf y flwyddyn i ganol y dref gan effeithio'n gadarnhaol ar fusnesau lleol yn sgil y nifer a ddaeth i'r digwyddiad.

Roedd dewis enfawr o stondinau yn gwerthu bwyd, diodydd, anrhegion, a chrefftau, yn ogystal â Siôn Corn a’i sled, perfformiadau byw ac adloniant, reidiau ffair i blant, ac wrth gwrs llawr sglefrolio Bargod a oedd yn newydd ar gyfer eleni!

Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau lleol am y digwyddiad:

Dywedodd Ricci’s Café “Roedden ni'n hapus iawn gyda’r dyddiad a oedd gennym ni eleni yn y calendr, gan fod y digwyddiad yn nes at y Nadolig roedd hi’n  golygu ei bod yn brysurach. Roedd llawer o symud ar y stryd a llawer o gwsmeriaid nad oedden ni wedi'u gweld o'r blaen. Roedd yn drefnus, roedd dewis da o reidiau plant a stondinau, roedd y masnachwyr yn y lle iawn ar yr adeg iawn ac roedd y tywydd yn dda i ni.”

Dywedodd Alex o Hancox’s Pies “Roedd digwyddiad Bargod i ni, fel pob digwyddiad arall, yn berffaith. Roedd yn siriol, gyda llawer o gwsmeriaid – yn enwedig pan stopiodd y diddanwyr o flaen ein stondin!”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Roedd Ffair y Gaeaf Bargod yn llwyddiant mawr arall. Y nifer fwyaf o ymwelwyr sydd gennym ni ar gofnod ar gyfer y digwyddiad hwn, a hefyd ar gyfer y flwyddyn. Hoffwn i ddiolch i bawb am eu hymdrechion. Y tîm digwyddiadau, masnachwyr, Cyngor Tref Bargod, a thrigolion yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau bod pethau'n mynd yn dda iawn.”
 
 


Ymholiadau'r Cyfryngau