News Centre

Llwyddiant i Siop Ailddefnyddio Penallta

Postiwyd ar : 28 Awst 2024

Llwyddiant i Siop Ailddefnyddio Penallta
Siop Ailddefnyddio Penallta yn dathlu rhagor o lwyddiant.

Agorodd Siop Ailddefnyddio Penallta Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn partneriaeth â’r elusen yn Ne Cymru, Wastesavers Charitable Trust Ltd, ym mis Hydref 2022. Mae’r siop yn rhoi cyfle i eitemau a oedd unwaith ar gyfer y Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi gael eu hailddefnyddio a’u gwerthu am brisiau isel.

Ers agor, mae’r siop wedi mynd o nerth i nerth, nid yn unig yn dargyfeirio eitemau o’r ffrwd wastraff, ond hefyd yn ymuno â phrosiectau lleol ac elusennau i gynnig prosiectau cymunedol. Mae’r rhain yn cynnwys partneriaeth â’r elusen iechyd meddwl, Growing Space, i redeg rhaglen ailgylchu sy’n darparu sgiliau newydd, cymorth cyflogaeth a chyfleoedd gwirfoddoli i drigolion ledled y Fwrdeistref Sirol, a phartneriaeth â Caerphilly Uniform Exchange i gynnig gwisg ysgol ail law i drigolion Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhad ac am ddim. 
 
Mae’r fenter gymdeithasol bellach yn dathlu bod y siop ailddefnyddio sy’n perfformio orau yng nghatalog Wastesavers o ran dargyfeirio eitemau o’r ffrwd wastraff gyda chyfartaledd o 550 o eitemau’n cael eu dargyfeirio bob wythnos!

Ar hyn o bryd, mae gan Wastesavers naw siop ailddefnyddio ledled De Cymru.
 
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Pan agoron ni Siop Ailddefnyddio Penallta yn 2022, roedd yn bwysig i ni bod y siop yn dod yn ased cymdeithasol, gan ddangos y manteision cymdeithasol ac economaidd y mae ailddefnyddio yn eu cael ar gymuned.

“Rydyn ni wrth ein bodd o ddweud ein bod ni wedi gallu cyflawni hyn gyda’r prosiectau cymunedol amrywiol sydd gan Siop Ailddefnyddio Penallta i’w cynnig, wrth gymryd camau breision i ddargyfeirio nwyddau o’r ffrwd wastraff.

“Hoffwn i ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r prosiect hwn; rydych chi i gyd wedi chwarae rhan wrth wneud Siop Ailddefnyddio Penallta yn llwyddiant.”
 
Dywedodd Penny Goodwin, Prif Swyddog Gweithredol  Wastesavers Charitable Trust, “Rydyn ni'n falch o fod yn rhan o waith Caerffili i gynyddu’r economi gylchol.

“Fel elusen amgylcheddol, ein nodau yw lleihau’r hyn rydyn ni'n ei daflu i ffwrdd a rhoi’r eitemau hyn i’w defnyddio yn ein cymuned leol ni. Mae Siop Ailddefnyddio Penallta wedi gwneud hynny, gan ddargyfeirio tua thair tunnell y mis rhag cael ei waredu a gan gynorthwyo llawer o deuluoedd lleol a grwpiau cymunedol.

“Hoffem ni ddiolch i holl drigolion Caerffili am roi eu heitemau i ni yn hytrach na’u taflu i ffwrdd, a rhaid diolch yn fawr i’n staff a’n gwirfoddolwyr aruthrol ni sy’n gweithio mor galed i ddod o hyd i drysorau yn y rhoddion bob dydd.” 
 
Mae Siop Ailddefnyddio Penallta ar Ystâd Ddiwydiannol Penallta, South Road, Hengoed CF82 7ST ac mae ar agor saith diwrnod yr wythnos, 9.00am-4.00pm.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.caerffili.gov.uk/siop-ailddefnyddio-penallta
 


Ymholiadau'r Cyfryngau