News Centre

Drumlord Limited, cwmni lleol sydd wedi cael cymorth gan grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, i gynyddu ei fusnes

Postiwyd ar : 30 Awst 2024

Drumlord Limited, cwmni lleol sydd wedi cael cymorth gan grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, i gynyddu ei fusnes
Mae Drumlord Limited yn ganolfan leol ar gyfer prototeipio cyflym sy'n arbenigo mewn argraffu 3D, gweithgynhyrchu ychwanegion a chastio dan wactod i gyflenwi modelau, prototeipiau a rhannau gweithgynhyrchu llai o ansawdd uchel i gwmnïau mewn amrywiaeth eang o sectorau diwydiannol.

Dechreuodd Drumlord ym 1981 ac, ar hyn o bryd, mae'n cyflogi 12 o bobl leol. Mae’r busnes wedi’i gynorthwyo'n ddiweddar gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Llywodraeth y DU gyda Drumlord yn cael cyfanswm o £37,513.00 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar ddau achlysur rhwng 2022 a 2024.

Cafodd y grant cyntaf o £12,600 ei neilltuo tuag at Drumlord o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy ymyrraeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2022/23. Cafodd y grant arian cyfatebol gan y cwmni i atgyfnerthu ei strwythur TG. Roedd yr arian hwn yn caniatáu i'r cwmni anfon gwaith o'r archeb i'r gweithdy ar ffurf electronig, yn ogystal â bilio'r cwsmer yn uniongyrchol ac yn fwy cywir gan y byddai'r archeb wedi'i rhaglennu a'r costau'n cael eu cyfrifo ar yr un pryd.

Daeth yr ail grant o £24,913 i law yn 2023/24 i’w wario ar waith adeiladu a gwneud addasiadau i'r gweithdy i symleiddio prosesau.

Roedd angen ailfodelu'r llawr cynhyrchu oherwydd bod angen gwaith cynhyrchu castio dan wactod i ddarparu ar gyfer archebion cleientiaid a oedd yn tyfu o hyd. Mae'r ardal wedi'i rhannu i sicrhau mowldiau castio o'r ansawdd gorau ac i gynhyrchu mowldiau mwy o faint.

Mae rhai o gleientiaid Drumlord yn cynnwys stiwdios ffilm a theledu rhyngwladol, Panasonic, Sony, Emirates Airways ac ati i enwi dim ond rhai.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Roedd taith o amgylch y busnes i weld sut mae'r dechnoleg flaengar hon yn gweithio yn hynod addysgiadol. Mae wedi bod yn dda cysylltu â Drumlord i’w cynorthwyo nhw ar eu taith.”

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Rob Aldridge, “Fe wnaeth dyfarnu grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ein helpu ni i fuddsoddi mewn gwelliannau sylweddol i’n hadran castio dan wactod. Roedden ni'n gallu ehangu’r cyfleuster a buddsoddi mewn gwell systemau awyru, echdynnu a goleuo sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar ein busnes. Nid yn unig ein bod ni wedi cynyddu ein gallu o ran cynhyrchu, ond mae'r newidiadau wedi gwella effeithlonrwydd ac ansawdd hefyd, gan fod o fudd mawr i'n cwsmeriaid ni.”

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Drumlord Limited a'u gwaith nhw ar eu gwefan: www.drumlord.co.uk

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7WF

E-bost: busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220


Ymholiadau'r Cyfryngau