Grantiau ynni ar gael i aelwydydd Caerffili
Postiwyd ar : 01 Awst 2024
Gall aelwydydd preifat cymwys ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wneud cais am grantiau i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn annog trigolion y mae eu cartrefi â thanau tanwydd solet (glo), boeleri cefn neu ffenestri gwydr sengl i wneud cais am gymorth i wneud eu cartrefi’n gynhesach.
I fod yn gymwys am grant argyfwng ynni:
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn berchen-feddianwyr neu'n ddeiliaid contract y sector preifat (tenant) ac yn byw yn yr eiddo am o leiaf 12 mis.
- Mae gan aelwyd incwm gros cyfunol o £31,000 neu lai, neu
- Mae person yn yr eiddo yn agored i effeithiau byw mewn eiddo oer.
- Rhaid bod y cartref yn cael ei ystyried yn aneffeithlon o ran ynni (gall y Cyngor asesu hyn ar gyfer trigolion).
- Rhaid i eiddo sy'n cael ei rentu'n breifat gydymffurfio â'r holl reoliadau cyfredol (gradd ynni D neu E).
- Rhaid i unrhyw fesur sy'n cael ei roi ar waith yn yr eiddo fod o werth sy'n gwella graddfa ynni'r eiddo a bod modd profi hynny.
- Rhaid i'r eiddo fod wedi ei feddiannu gan yr ymgeisydd am gyfnod o flwyddyn o leiaf.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wirio cymhwysedd, cysylltwch â thîm Tai Sector Preifat y Cyngor ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk.
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.