News Centre

Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau TGAU!

Postiwyd ar : 25 Awst 2022

Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau TGAU!
Mae myfyrwyr ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn cael gwybod eu canlyniadau TGAU heddiw (dydd Iau 25 Awst).

Mae pobl ifanc wedi bod yn dychwelyd i’r ysgol y bore ’ma i gael gwybod eu perfformiad yn yr arholiadau sy’n garreg filltir bwysig.

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet dros Addysg, “Da iawn a llongyfarchiadau i’r disgyblion i gyd sydd wedi casglu’u canlyniadau TGAU y bore ’ma. Rydych chi i gyd wedi cael ychydig o flynyddoedd anodd a dylech chi fod yn falch dros ben o’ch hunain.

“Dw i eisiau rhoi fy nymuniadau gorau i chi wrth fynd ymlaen, p’un a hoffech chi barhau mewn addysg a chael cymwysterau Safon Uwch neu ystyried prentisiaethau posib ac opsiynau gyrfa.

“Am nawr, gobeithio eich bod chi’n defnyddio’r amser hwn i fwynhau’r gwyliau’r haf gyda’ch anwyliaid.”

Dywedodd Richard Edmunds, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol Caerffili, “Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i'r rheini ohonoch chi sy’n casglu’ch canlyniadau TGAU y bore ’ma. Dw i dim ond eisiau dweud llongyfarchiadau enfawr i chi i gyd. Dw i’n sylweddoli dydy’r blynyddoedd diweddar ddim wedi bod yn hawdd ond rydych chi wedi gweithio mor galed a dylech chi fod yn falch dros ben o’ch hunain.

“Hoffwn ymestyn fy nymuniadau gorau ar gyfer eich dyfodol, os ydych chi’n parhau eich addysg yn y chweched dosbarth neu’r coleg, neu fentro i ymchwilio cyfleoedd gyrfa.

“Mae eich blynyddoedd o waith caled wedi talu ar ei ganfed felly nawr hoffwn eich annog chi i gyd i ymlacio a mwynhau eich haf gyda ffrindiau a theulu.”

Dywedodd Keri Cole, Prif Swyddog Addysg, “Ni fyddai dweud ei bod hi wedi bod yn ddwy flynedd anodd i’r rhai mewn addysg, athrawon, rhieni a gwarcheidwaid yn dod yn agos ati. Rydw i’n gwybod y bydd heddiw yn ddiwrnod balch beth bynnag fydd y canlyniadau a bydd ein cymuned ysgol anhygoel yn cefnogi dysgwyr i fynd ymlaen i’r cam nesaf ar eu taith ddysgu. Mae gweld ymrwymiad ac ymroddiad staff a myfyrwyr yn ystod y cyfnod eithriadol hwn wedi bod yn ysbrydoledig ac mae’n dangos ‘Tîm Caerffili’ ar ei orau – da iawn, bawb.”


Ymholiadau'r Cyfryngau