News Centre

Digwyddiad Rhwydweithio Busnes ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 23 Awst 2022

Digwyddiad Rhwydweithio Busnes ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghaerffili
Hoffai'r Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, estyn gwahoddiad i chi i ymuno mewn Digwyddiad Rhwydweithio Busnes ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghaerffili.
 
Mae'r digwyddiad rhwydweithio cyffrous hwn yn galluogi busnesau o bob canol tref i gwrdd, ochr yn ochr â chynghorwyr a'r Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Mae'r cyfarfod wedi'i drefnu ar gyfer bore Mercher 7 Medi am 8am yn The Gatehouse. Mae agenda i drafod datblygiadau newydd cyffrous a chyfle i fusnesau fynegi eu barn ar yr hyn y maen nhw'n credu y dylai ein blaenoriaethau ni fod ar gyfer Caerffili.
 
Bydd y cyfarfod bore yn cynnwys lluniaeth. Y cyfeiriad llawn ar gyfer y cyfarfod yw: Gatehouse, Canolfan Siopa Cwrt y Castell, Uned 30 Castle Street, Caerffili CF83 1NU
 
Os hoffech chi fod yn bresennol yn y Digwyddiad Rhwydweithio Busnes ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghaerffili, anfonwch e-bost i MarchnataCymorthBusnes@caerffili.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ateb yw dydd Mercher 31 Awst 2022.


Ymholiadau'r Cyfryngau