News Centre

Ynghylch Clefyd Parkinson – Dawns ar gyfer Clefyd Parkinson yn y ’Stiwt

Postiwyd ar : 09 Maw 2022

Ynghylch Clefyd Parkinson – Dawns ar gyfer Clefyd Parkinson yn y ’Stiwt

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth ynghylch Clefyd Parkinson ac, ar hyn o bryd, mae Dawns ar gyfer Clefyd Parkinson yn chwilio am bobl newydd i ymuno â’u sesiynau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.

Profwyd bod dawns yn datblygu hyder a chryfder, wrth leddfu symptomau rhai o'r cyfranogwyr yn eu bywyd pob dydd. Mae'r dosbarthiadau'n llawn hwyl, yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol clefyd Parkinson.
 
Mae tîm Datblygu'r Celfyddydau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cydweithio â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac mae ar gyfer pob gallu.
 
Mae'r grŵp yn cwrdd bob bore Mercher, rhwng 10am a 11.15am, yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon. Mae'r sesiwn gyntaf am ddim, ac mae unrhyw sesiynau eraill yn costio £3.50 yr wythnos.
 
Meddai Bethan Ryland, Swyddog Datblygu'r Celfyddydau, “Dyma gyfle gwych i wella symudiad, cryfder a chydsymud mewn amgylchedd proffesiynol, cefnogol a llawn hwyl, felly, dewch draw a rhoi cynnig arni.”
 
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm Datblygu'r Celfyddydau ar chambd@caerffili.gov.uk neu 07841 799947.


Ymholiadau'r Cyfryngau