Pont Heol Shingrig
Postiwyd ar : 20 Ebr 2021
Pont Heol Shringrig yw lle mae'r B4255 Heol Shringrig yn croesi'r rheilffordd fwynau i'r gogledd o Nelson. Trafnidiaeth Cymru sy'n berchen ar y bont, ac yn ei chynnal. Mae ffin Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i'r de o'r bont reilffordd hon, gyda'r strwythur ei hun yn gyfan gwbl y tu mewn i ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Yn y tymor byr, wrth i'r gwaith ymchwilio fynd ymlaen, mae'r mesurau lliniaru llwythi canlynol wedi'u rhoi ar waith:
- Peidio â rhoi cyfyngiad pwysau ar waith ar unwaith, ond sicrhau mai un rhes o draffig sy'n teithio dros y bont, a hynny dros ganol y bont, drwy ddefnyddio goleuadau traffig dwyffordd dros dro.
- Atal cerbydau llwythi anghyffredin rhag teithio dros y bont ar unwaith.
Mae goleuadau traffig dros dro, felly, wedi'u gosod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i hwyluso'r mesurau lliniaru llwythi uchod. Byddwn ni'n ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y datblygiadau mewn perthynas â'r bont hon.