Ynghyd â’r llacio graddol yn y cyfyngiadau COVID-19, mae'n siŵr y bydd y tywydd gwell a’r nosweithiau mwy golau yn ysbrydoli llawer ohonom i fynd allan a mwynhau'r golygfeydd gwledig prydferth sydd gan Gymru i'w cynnig. Yn ogystal â cherddwyr, beicwyr a beicwyr modur, mae marchogion sy’n defnyddio’r ffyrdd yn agored i niwed ond weithiau maen nhw’n cael eu hanghofio am nad ydyn nhw mor amlwg mewn ystadegau ynghylch anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd.
Gall ceffylau a'u marchogion fod yn agored i niwed ar y ffordd; gall gwrthdrawiad rhwng ceffyl a cherbyd arwain at ganlyniadau sy'n bygwth bywyd i'r ceffyl a’r marchog yn ogystal â defnyddiwr y cerbyd.
Amcangyfrif Cymdeithas Ceffylau Prydain yw bod dros 1,000 o ddigwyddiadau yn cynnwys ceffylau ar ffyrdd y Deyrnas Unedig yn y 12 mis hyd at 28 Chwefror 2021. Yn anffodus, arweiniodd hyn at anafu 130 o bobl, lladd 46 o geffylau ac anafu 118 o geffylau eraill.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Fel defnyddwyr ffyrdd cyfrifol, mae gan bob un ohonon ni ran i'w chwarae wrth helpu i leihau'r digwyddiadau hyn. Mae ceffylau'n anifeiliaid mawr, grymus sydd â greddf ffoi ac mae hyd yn oed y ceffyl mwyaf profiadol yn gallu cael ei frawychu, yn enwedig yn agos at draffig cyflym neu pan fydd yna sŵn mawr sydyn.
"Mae’r BHS yn dweud bod 80% o ddigwyddiadau wedi digwydd am fod cerbyd wedi pasio’n rhy agos at y ceffyl – rhywbeth sy'n gwbl annerbyniol ac yn hawdd ei osgoi. Gyda phopeth mae pawb wedi delio ag ef dros y flwyddyn ddiwethaf, fe ddylen ni fod yn gofalu am ein gilydd, nid yn peryglu’n gilydd”
Os ydych chi'n nesáu at geffyl a marchog, y peth cyntaf i'w wneud yw arafu a bod yn barod i stopio.
Gofalwch gadw'n bell nôl ac osgoi cyflymu’r injan neu seinio'r corn – mae’n fwy na thebyg y bydd y marchog yn ymwybodol eich bod chi yno ond efallai na fydd bob amser yn cael cyfle i gydnabod y sefyllfa gan y gallai hynny olygu troi o gwmpas neu dynnu ei ddwylo oddi ar yr awenau.
Byddwch yn amyneddgar a rhowch amser i'r marchog ddod o hyd i giât neu rywle arall wrth ochr y ffordd lle dylai fod digon o le rhwng y ceffyl a'ch cerbyd chi ichi gael pasio’n ddiogel.
Os yw'r ffordd yn ddigon llydan a’i bod yn ymddangos y bydd cyfle i oddiweddyd yn ddiogel, sicrhewch y gallwch wneud hynny heb ruthro. Os oes amheuaeth arhoswch am fwy o fwlch neu rywle lle gallwch weld yn well byth.
Mae'n hanfodol bod pawb sy’n defnyddio’r ffordd yn pasio’n araf ac yn llydan, heb yrru’n fwy na 15 mya – p'un a ydych yn gyrru car, cerbyd nwyddau trwm, beic modur neu feic. Dim ond pan fyddwch wedi mynd ymhell heibio y bydd yn briodol cyflymu'n raddol eto a pharhau ar eich taith.
Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru a Chymdeithas Ceffylau Prydain yn annog marchogion sy’n defnyddio’r ffyrdd i roi gwybod am ddigwyddiadau ar y ffyrdd er mwyn helpu i greu darlun realistig o'r sefyllfa, gan nad oes digon o bobl yn sôn yn aml.
I helpu, mae'r BHS wedi datblygu ap sy'n caniatáu i bobl roi gwybod yn gyflym ac yn hawdd am unrhyw ddigwyddiadau sy'n effeithio ar ddiogelwch. Gall yr ap Horse i gael ei lawrlwytho o'r App Store neu Google Play a gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau hefyd drwy wefan y BHS.
Yn olaf, cofiwch y bydd y marchog bob amser yn ddiolchgar iawn am eich ystyriaeth wrth ichi basio. Efallai na fydd bob amser yn gallu’ch cydnabod os yw’n brysur yn helpu’r ceffyl, ond gallwch fod yn dawel eu meddwl bod eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.