News Centre

​CBSC a Heddlu Gwent yn gweithio gyda'i gilydd i orfodi parthau cerddwyr a beicwyr ledled y Fwrdeistref

Postiwyd ar : 29 Ebr 2021

​CBSC a Heddlu Gwent yn gweithio gyda'i gilydd i orfodi parthau cerddwyr a beicwyr ledled y Fwrdeistref
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gwent i orfodi'r parthau cerddwyr a beicio mewn ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cynhaliodd Tîm Gorfodi Sifil Cyngor Caerffili weithrediad ar y cyd â heddlu Gwent yn Ysgol y Twyn, Caerffili, ddydd Mawrth 27 Ebrill, i orfodi'r parth cerddwyr a beicio sy'n gwahardd gyrru trwy'r ardal rhwng 8:35-9:10 a 14:45-15:30.

Mae gyrru trwy barth cerddwyr yn ystod yr oriau hyn yn drosedd a fydd yn ychwanegu pwyntiau at eich trwydded.

Ar brynhawn Mercher 26 Ebrill, cafodd 17 Hysbysiad Cosb Benodedig ei gyhoeddi yn Ysgol y Twyn ar gyfer torri rheolau'r parthau, yn ogystal â 2 Hysbysiad Tâl Cosb ei gyhoeddi am droseddau parcio.

Mae'r orfodaeth hon yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd parthau cerddwyr a beicwyr yn ystod yr oriau hyn a goblygiadau torri'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.

Bydd rhagor o weithrediadau yn digwydd mewn ysgolion ledled y Fwrdeistref dros yr wythnosau nesaf.

Meddai'r Cynghorydd John Ridgewell, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Ein blaenoriaeth erioed yw gwneud strydoedd y Fwrdeistref Sirol yn fwy diogel ar gyfer cerddwyr a gyrwyr. I lawer o ysgolion ledled y Fwrdeistref gall y cyfnod ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol achosi tagfeydd traffig, problemau parcio ac yn bwysicaf oll, pryderon diogelwch ar y ffyrdd. Felly, mae lleihau hyn ger ein hysgolion yn hanfodol ar gyfer diogelwch ein disgyblion, rhieni a'n staff. Rydyn ni am ddiolch i'n holl drigolion sy'n cadw at y rhain, ac yn annog pawb i ddilyn y newidiadau er mwyn osgoi cosbau.”


Ymholiadau'r Cyfryngau