Caerffili yn condemnio camdriniaeth a bygythiadau
Postiwyd ar : 16 Ebr 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn awyddus i anfon neges glir na fydd bygythiadau na chamdriniaeth tuag at staff a chynghorwyr yn cael eu goddef.
Codwyd pryderon yn ddiweddar yn dilyn nifer o fygythiadau a sylwadau ymosodol a anelwyd at swyddogion y Cyngor. Roedd un bygythiad yn erbyn aelod etholedig mor ddifrifol nes bod gofyn i Heddlu Gwent ymyrryd yn y mater.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor, “Ni fyddwn ni'n goddef camdriniaeth na bygythiadau tuag at ein cydweithwyr. Yn anffodus, mae nifer cynyddol o ‘ryfelwyr bysellfwrdd’ sy’n meddwl ei bod yn dderbyniol gwneud sylwadau ymosodol, bygythiol neu amhriodol. Rydyn ni am anfon neges glir na fydd y Cyngor yn goddef yr ymddygiad hwn a chymerir camau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol lle bo hynny'n briodol.
Yn ddiamau, mae pandemig y coronafeirws a'r cyfyngiadau cysylltiedig rydyn ni i gyd wedi'u profi dros y 12 mis diwethaf yn trethu ein hamynedd ac yn gwneud i ni deimlo'n rhwystredig iawn, ond nid oes esgus dros y math hwn o ymddygiad. Gadewch i ni barhau i fod yn garedig â’n gilydd wrth i ni barhau i lywio ein ffordd drwy’r her fwyaf a wynebwyd gennym ni erioed."
Mae mecanweithiau ffurfiol ar waith er mwyn i drigolion godi unrhyw gwynion neu bryderon drwy wefan y Cyngor - www.caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864221.