Gallwch chi nawr gadw lle ar y Llwybr Athletau Cymunedol
Postiwyd ar : 19 Ebr 2021
Mae'r Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili, wedi cyhoeddi bod gwaith adeiladu trac athletau o'r radd flaenaf, yn Oakdale, bron wedi'i gwblhau,
Rydym yn falch o rannu'r newyddion y bydd y Trac Athletau newydd, yn Oakdale, wedi'i gwblhau yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Er na allwn roi dyddiad ar gyfer agor y trac eto. Hoffem wahodd ceisiadau am logi'r trac o fis Mehefin 2021. Bydd hyn yn caniatáu inni ddarparu eglurder i glybiau/defnyddwyr ynghylch eu slotiau hyfforddi a'r defnydd a ddyrennir iddynt ar ôl i'r lleoliad agor.
I gael ffurflen logi, neu os oes gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch â Laura Thomas willil17@caerffili.gov.uk