Teipograffeg

Mae defnydd cyson o deipograffeg yn cynhyrchu testun, strwythur a threfn clir.

Mae'r ffordd y mae'r cynnwys yn cael ei osod ar y wefan – megis dewis ffont, maint y testun a threfn y trefniant teipograffyddol – yn helpu'r defnyddwyr i lywio drwy'r wefan. Mae teipograffeg yn cwmpasu 95% o ddyluniad gwefan. Mae teipograffeg yn cyfrannu at y ffordd y mae'r cynnwys ar dudalen we yn cael ei ddehongli a'i ganfod gan ddefnyddwyr.

Rydyn ni'n cadw holl ffontiau ein penawdau a thestun corff yn gyson drwy gydol ein gwefan. Rydyn ni'n defnyddio ffont sans-serif. Mae ein ffont yn ddarllenadwy iawn, yn niwtral ac yn finimalaidd.

Mae ein penawdau yn fwy na thestun y corff ac yn lleihau mewn maint gan H1, H2, H3, ac ati. Mae hyn yn helpu darllenwyr i sganio'r dudalen am y cynnwys targed.

Osgoi

Ceisiwch osgoi defnyddio dim ond priflythrennau. Os ydych chi am dynnu sylw at destun y corff neu'r pennawd, rydych chi'n ei wneud yn drwm. Mae hyn yn gwneud yr un peth wrth fod yn fwy darllenadwy a dymunol yn weledol.

Osgowch danlinellu testun nad yw'n ddolen. Trwy danlinellu testun, mae’n helpu tynnu sylw’r darllenydd at y testun ac yn cynrychioli’r hyn y maen nhw'n disgwyl iddo ei gynrychioli, sef hyperddolen ar dudalen we. Mae defnyddwyr yn gallu cael eu drysu a mynd yn ddig os nad yw testun wedi'i danlinellu yn cyd-fynd â'r hyn maen nhw'n ei ddisgwyl.