Tablau

Mae tablau yn ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno data neu wybodaeth y mae angen eu cyflwyno mewn rhesi a cholofnau.

Dyfeisiwyd tablau HTML am reswm, sef dangos data tablaidd. Cyn belled â'ch bod chi'n defnyddio tablau ar gyfer data tablaidd yn unig, a pheidio byth â nythu tabl y tu mewn i dabl arall, rydych chi'n eu defnyddio'n gywir ac yn ôl y bwriad.

Awgrymiadau defnyddiol

  • Ni ddylech chi fyth ddefnyddio tabl ar gyfer gosodiad neu leoli cynnwys.
  • Dylai tablau cael eu defnyddio ar gyfer cyflwyno data neu wybodaeth.
  • Peidiwch â chanoli testun mewn tabl, gallai hyn achosi problemau hygyrchedd gan fod testun wedi'i ganoli yn anoddach i'w ddarllen.  Dylai'r testun bob amser yn cael ei unioni ar y chwith.

Beth yw tabl hygyrch?

Mewn gwirionedd, dylai tablau gael eu defnyddio ar gyfer data ac NID eu defnyddio i hwyluso gosodiadau tudalennau neu ddogfennau.

Wrth ddefnyddio tablau i gyflwyno data neu wybodaeth, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio strwythur tabl syml gyda phenawdau colofnau, gan wneud yn siŵr nad yw'r tablau'n cynnwys celloedd hollt, celloedd wedi'u huno, na thablau wedi'u nythu (tablau o fewn tablau).

Bydd Gwiriwr Hygyrchedd Microsoft Office (Saesneg yn unig) yn rhestru unrhyw faterion hygyrchedd yn eich dogfen, gan gynnwys tablau.

Gallwch chi hefyd fwrw golwg dros eich tablau i wirio nad oes ganddyn nhw unrhyw resi neu golofnau cwbl wag.

Pam gwneud hynny?

  • Mae tablau sydd wedi'u creu'n wael yn gallu achosi anawsterau i ddarllenwyr sgrin neu i'r rhai sy'n tabio drwy wybodaeth ar dudalen we neu ddogfen.
  • Os yw tabl wedi'i adeiladu o fewn tabl arall neu os yw cell yn cael ei chyfuno neu ei hollti, nid yw'r darllenydd sgrin yn gallu darparu gwybodaeth ddefnyddiol (mae darllenwyr sgrin yn darllen o'r chwith i'r dde).
  • Gallai celloedd gwag mewn tabl hefyd gamarwain darllenydd sgrin i feddwl nad oes dim byd arall yn y tabl.
  • Mae darllenwyr sgrin yn defnyddio gwybodaeth pennawd colofn i nodi rhesi a cholofnau.

Dychmygwch

Ydych chi'n gallu defnyddio'r bysellau saeth ar eich bysellfwrdd i dapio drwy'r tabl ac yn gallu tapio i fyny, i lawr ac o'r chwith i'r dde yn rhesymegol i gyrraedd pob cell yn rhesymegol ac yn hawdd? Os nad ydych, nid yw tabl yn hygyrch.

Sut i wneud hynny

Dyma rai cyfarwyddiadau er mwyn defnyddio penawdau colofn mewn tablau (Saesneg yn unig).

Fideo Cyfarwyddiadol: Creu tablau hygyrch yn Word

Mae trawsgrifiad y fideo hwn ar gael o wefan Microsoft Office – Creu Tablau Hygyrch (Saesneg yn unig) .

Awgrym cyflym

  • Er mwyn osgoi rhwystredigaeth, mae rhai pethau i'w hosgoi wrth greu tablau yn eich dogfen chi.
  • Ceisiwch osgoi uno colofnau, e.e. mae hon yn enghraifft gyffredin lle mae'r rhes uchaf gyfan yn cael ei huno.
  • Ceisiwch osgoi uno rhesi; mae hyn i'w weld yn aml yn y golofn gyntaf neu'r golofn olaf. Os oes angen i chi wneud hyn gallwch guddio'r ffiniau (Saesneg yn unig) yn lle uno'r celloedd.
  • Ceisiwch osgoi hollti celloedd neu ychwanegu celloedd ychwanegol o fewn celloedd.
  • Ceisiwch osgoi rhoi tablau o fewn tablau.

Tablau – arfer gorau

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi res gyda phennawd y tabl a chadw cynlluniau tablau mor syml â phosibl heb unrhyw gelloedd wedi'u huno neu wedi'u hollti.

Mae'r cynnwys wedi'i gynhyrchu'n garedig gan Helen Wilson ac mae wedi'i drwyddedu o dan Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 International License. Mae'n seiliedig ar waith yng Nghyngor Sir Swydd Gaerwrangon (Saesneg yn unig).