ID pleidleisiwr

O 4 Mai 2023, bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos cerdyn/dogfen adnabod gyda llun i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau. Bydd hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 
  • Is-etholiadau Seneddol y DU
  • Deisebau adalw

O fis Hydref 2023, fe fydd hefyd yn berthnasol i Etholiadau Cyffredinol y DU.

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos cerdyn/dogfen adnabod gyda llun i bleidleisio yng ngorsafoedd pleidleisio etholiadau’r Senedd nac etholiadau cynghorau lleol.

Ymhlith y dulliau adnabod sy’n cael eu derbyn mae’r canlynol:

  • Pasbort y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Gymanwlad;
  • Trwydded yrru’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Gymanwlad;
  • Rhai cardiau teithio rhatach megis pàs bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+.

Bydd modd i bleidleiswyr ddefnyddio dogfen adnabod nad yw’n gyfredol os oes dal modd eu hadnabod o’u llun.

Mae rhestr lawn o ffurfiau derbyniol o ddulliau adnabod gyda llun ar gael yma: Mathau o ID ffotograffig a dderbynnir | Electoral Commission

Os nad oes gennych chi gerdyn adnabod sy’n cael ei dderbyn

Cyflwynwch gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr:

  • os nad oes gennych chi gerdyn/dogfen adnabod gyda llun cydnabyddedig
  • os nad ydych chi bellach yn edrych fel y llun ar eich cerdyn/dogfen adnabod
  • os yw’r enw ar eich cerdyn/dogfen adnabod gyda llun yn wahanol i’ch enw ar y gofrestr etholwyr

Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Cysylltwch â ni