Adolygu gorsaf bleidleisio
Cyflwynodd adran 17 o Ddeddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2013 ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ‘gynnal a chwblhau’ adolygiadau o ddosbarthau etholiadol a mannau pleidleisio. Rhaid cychwyn a chwblhau'r adolygiad gorfodol nesaf rhwng 1 Hydref 2018 a 31 Ionawr 2020.
Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd hon, cynhelir yr adolygiad ym mwrdeistref sirol Caerffili rhwng 12 Awst 2019 a 13 Rhagfyr 2019.
Bydd yr adolygiad yn edrych i weld pa mor addas y mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi eu lleoli o fewn pob ardal etholiadol gan wneud cyfeirnod penodol at faterion anabledd a hygyrchedd.
Canlyniadau o adolygiadau blaenorol