Canllawiau i gwesteiwyr

Os ydych chi wedi cofrestru i groesawu teulu neu unigolyn sy'n cyrraedd o Wcráin, rydyn ni'n gwerthfawrogi popeth rydych chi'n ei wneud i helpu'r ymdrech ddyngarol ac rydyn ni yma i'ch helpu a'ch cefnogi chi.

Rydyn ni am wneud yn siŵr bod gennych chi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i'ch helpu chi yn eich rôl chi fel gwesteiwr.

Dylai'r canllawiau atodedig eich helpu chi i baratoi a deall eich rôl chi.

Os hoffech chi gysylltu â ni am gyngor, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: CymorthWcrain@caerffili.gov.uk

Yn ogystal, fel rhan o Gynllun Cenedl Noddfa Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Llinell Gymorth Wcráin a fydd yn gweithredu rhwng 9am a 7pm, 7 diwrnod yr wythnos.

Gall gwesteiwyr a'u gwesteion ddefnyddio hwn.

I ffonio o fewn y Deyrnas Unedig: 0808 175 1508

I ffonio o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig: 020 4542 5671(+44 90)20 4542 5671