Polisi gwerth cymdeithasol
Mae CBS Caerffili yn gyfrifol am gyflenwi ystod eang o wasanaethau cyhoeddus statudol a dewisol.
Mae’r Cyngor yn cyflenwi ei wasanaethau’n uniongyrchol drwy ei weithlu ei hun, a thrwy sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector, gan wario dros £230miliwn y flwyddyn ar ystod amrywiol o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan dros 4600 o gyflenwyr, darparwyr gwasanaethau a chontractwyr.
Mae cyfrifoldeb gan y Cyngor i reoli arian cyhoeddus gydag uniondeb er mwyn sicrhau cyflawni gwerth am arian, a’i reoli mewn ffordd sy’n golygu y gellir cefnogi amcanion ehangach y Cyngor.
Rhoddodd Rhaglen y Cyngor ar gyfer Caffael (2018-2023) mwy o ffocws ar gyflawni hyn, gan gydnabod gwerth defnyddio caffael i gefnogi ei amcanion Diwylliannol, Cymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol ehangach, mewn ffyrdd sy’n cynnig manteision hirdymor go iawn i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu a phobl Cymru, wrth gydbwyso materion gwerth am arian ar yr un pryd.
Gwerth am Arian - yw’r “cyfuniad optimwm o gostau oes gyfan nid yn unig o ran sicrhau arbedion effeithlonrwydd a chanlyniadau ansawdd da i’r sefydliad, ond hefyd budd i gymdeithas, yr economi, a’r amgylchedd, nawr ac yn y dyfodol” (fel y’i diffiniwyd yn Natganiadau Polisi Caffael Cymru 2012 a 2015).
Gwerth Cymdeithasol - dyma “derm eang i ddisgrifio effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd camau a gymerir gan gymunedau, sefydliadau, llywodraethau ac unigolion” (fel y diffinnir yn Social Value for Commercial Success eLearning, Government Commercial College, 2020).
Polisi Gwerth Cymdeithasol
Polisi Gwerth Cymdeithasol Atodiad 1