Cynllun Trafnidiaeth Leol Cymoedd De-ddwyrain Cymru - ymgynghoriad

Mae Cynllun Trafnidiaeth Leol De-ddwyrain Cymru, sydd wedi’i lunio ar y cyd rhwng Cynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen, yn gosod blaenoriaethau’r awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth yn ystod y cyfnod 5 mlynedd o 2015 tan 2020, a’u dyheadau tymor canolig a hir dymor hyd at 2030.

Mae’r ddogfen hefyd yn gosod polisïau’r cynghorau ar gyfer cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy’n ddiogel, yn integredig, yn effeithlon ac yn economaidd, i’r ardal, o’r ardal ac o fewn yr ardal.

Mae Cynlluniau Trafnidiaeth Leol ar draws Cymru wedi cymryd lle Cynlluniau Trafnidiaeth Ranbarthol a ddaeth i ben ar 31ain Mawrth 2015.

Mae modd lawrlwytho a gweld y Cynllun Trafnidiaeth Leol trwy ddilyn y ddolen isod.

Cynllun Trafnidiaeth Leol Cymoedd De-ddwyrain Cymru (PDF)