Cynllun Gweithredu Strategol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2020 - 2022
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn darparu gwasanaethau hamdden a dysgu i drigolion y fwrdeistref sirol a phawb sy'n gweithio, astudio, neu yn ymweld â'r ardal. Mae hyn yn cynnwys benthyg llyfrau a deunyddiau clyweledol, darparu gwybodaeth mewn llyfrau ac ar ffurf electronig, cyfleusterau TGCh a mannau astudio.
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus yn cyfrannu at y llinyn Dysgu Gydol Oes ar y Strategaeth Gymunedol o ran cefnogi gwelliannau i gyrhaeddiad addysgol drwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol, cefnogaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a phobl ifanc, ac annog defnydd pwrpasol o amser hamdden.
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymdrechu i weithio tuag at wneud y mwyaf o flaenoriaethau craidd y cyngor drwy'r gwasanaethau y mae'n eu darparu a gwaith ei weithwyr.
Mae'r ddogfen isod yn egluro'n fanwl sut y byddwn yn datblygu eich gwasanaeth llyfrgelloedd i gyflawni'r ymrwymiadau hyn.
Cynllun Gweithredu Strategol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2020 - 2022 (PDF 71kb)