Polisi Defnydd Derbyniol wrth ddefnyddio cyfrifiadur llyfrgell

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) drwy'r Gwasanaeth Llyfrgell yn darparu mynediad i ystod eang o adnoddau - gan gynnwys y rhai sydd ar gael o'r Rhyngrwyd - yn ei rôl fel darparwr gwybodaeth, addysg, adloniant a diwylliant er mwyn cyfoethogi'i ddefnyddwyr. Mae'r Gwasanaeth Llyfrgell yn darparu mynediad am ddim i'w wasanaethau Rhyngrwyd ar gyfer holl aelodau'r llyfrgell. 

Mae'r rhyngrwyd yn rhoi mynediad i lawer o wybodaeth sy'n werthfawr neu'n addysgu, ond efallai y byddwch hefyd yn dod o hyd i ddeunydd sy'n anghywir, tramgwyddus neu’n anghyfreithlon dan gyfraith y DU. Nid yw CBSC yn gyfrifol am gywirdeb, dilysrwydd, cyfreithlondeb neu ddefnyddioldeb wybodaeth sydd ar gael. Gwaherddir trosglwyddiad unrhyw ddeunydd sy’n groes i unrhyw ran o’r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i’r canlynol: deunydd hawlfraint, deunydd bygythiol neu anllad, deunydd pornograffig, neu ddeunydd a ddiogelir gan gyfrinach fasnachol.

Mae CBSC yn darparu lefel o hidlo ar gyfer defnyddwyr, er enghraifft mae safleoedd benthyciadau diwrnod talu yn cael eu blocio ar holl ddyfeisiau CBSC, ond rhaid i chi hefyd gymryd cyfrifoldeb am eich gweithgareddau eich hun. 

Caiff cynnwys ei hidlo ar gyfer plant, ond nid yw hyn bob amser yn effeithiol wrth wahardd deunydd anaddas. Mae'r llyfrgell yn annog rhieni/gwarcheidwaid i oruchwylio defnydd y Rhyngrwyd gan eu plant Pan fo plentyn yn defnyddio'r llyfrgell ac nid yng nghwmni oedolyn, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod y plentyn wedi cael caniatâd oedolyn priodol i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Nid yw CBSC yn gyfrifol am breifatrwydd neu ddiogelwch eich gweithgareddau, ac yn eich annog i fod yn ofalus wrth wneud trafodion ariannol ar-lein. Caniateir prynu gwasanaethau a nwyddau ar-lein. Rhaid i gwsmeriaid fod yn ymwybodol na all y gwasanaeth llyfrgell gymryd unrhyw gyfrifoldeb am gamddefnydd gwybodaeth ariannol neu bersonol o ran prynu ar-lein. Nid cyfrifoldeb y gwasanaeth llyfrgell yw darparu nwyddau a brynwyd neu ansawdd y nwyddau a dderbyniwyd.

Efallai y byddwn yn monitro'ch defnydd o'r cyfrifiadur, gan gynnwys y gwefannau yr ymwelwyd â hwy, er mwyn cynllunio gwell gwasanaethau ac i sicrhau eich bod yn cadw at y polisi hwn. Ni fyddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall, nac yn ei datgelu i bobl neu sefydliadau eraill, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. 

Rhaid i chi ddarllen a derbyn y telerau ac amodau canlynol cyn y gallwch ddefnyddio'r cyfrifiadur hwn. Caiff unrhyw gwsmer llyfrgell yr ystyrir ei fod/ei bod wedi torri unrhyw un o delerau'r cod ymarfer eu hatal rhag defnyddio'r gwasanaeth rhyngrwyd.

Yr wyf yn cytuno â’r canlynol: 

  • Rwyf yn gwbl gyfrifol am yr holl weithgareddau a chyfathrebu sy'n digwydd yn ystod fy sesiwn gyfrifiadur a byddaf ond yn defnyddio fy ngherdyn llyfrgell fy hunan i gael mynediad at y cyfrifiaduron. 
  • Ni fyddaf yn ymyrryd â chaledwedd cyfrifiadurol, neu geisio gosod neu lawr-lwytho meddalwedd (gan gynnwys firysau) ar systemau gyriant cyfrifiadur y llyfrgell. 
  • Ni fyddaf yn ceisio cael mynediad heb ganiatâd i systemau cyfrifiadurol neu wybodaeth (“hacio”). 
  • Ni fyddaf yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau anghyfreithlon, gan gynnwys gamblo (gan nad yw llyfrgelloedd cyhoeddus yn cael eu trwyddedu). 
  • Ni fyddaf yn defnyddio'r cyfrifiadur ar gyfer anfon deunydd sy'n debygol o achosi tramgwydd neu anghyfleustra, e-bost masnachol (“sbamio”), a llythyrau cadwyn. 
  • Ni fyddaf yn defnyddio'r cyfrifiadur ar gyfer at ddiben enllib, athrod, aflonyddu neu fwlio ar-lein.
  • Ni fyddaf yn defnyddio'r cyfrifiadur i ddosbarthu deunydd y gellir ei ystyried yn rhesymol fel yn cefnogi neu'n cydoddef safbwyntiau eithafol, troseddau neu ddigwyddiadau casineb yn erbyn grwpiau neu unigolion yn ein cymdeithas.
  • Byddaf yn parchu preifatrwydd a sensitifrwydd defnyddwyr eraill y llyfrgell, ac ni fyddaf yn achosi sŵn, neu arddangos unrhyw destun neu graffeg y gellir eu gweld yn rhesymol fel rhai anweddus neu dramgwyddus. 
  • Ni fyddaf yn torri cytundebau trwydded hawlfraint neu feddalwedd. 
  • Byddaf yn cadw dogfennau a gwybodaeth dim ond i ddisgiau, CDs, ffyn cof USB neu ddyfeisiau storio allanol (Mae data personol sydd wedi ei storio yn rhywle arall angen cael ei ddileu ar ddiwedd y sesiwn).  Bydd unrhyw ddyfeisiau sy’n cael eu gadael yn y cyfrifiaduron yn cael eu cadw gan staff am 2 mis. Ar ôl hyn bydd yr holl ddata yn cael ei ddileu a'r ddyfais yn cael ei dinistrio. 
  • Byddaf yn defnyddio'r cyfrifiadur yn unig o fewn yr amser sydd wedi'i gadw i mi. 
  • Byddaf yn talu am unrhyw gostau argraffu a godwyd. 
  • Ni fyddaf yn defnyddio'r cyfrifiaduron ar gyfer gwylio darllediadau teledu byw neu ôl-weithredol sy'n cynnwys y defnydd o iPlayer ( nid yw llyfrgelloedd cyhoeddus wedi eu trwyddedu ar ei gyfer).
Cysylltwch â ni