Strategaeth Tai Lleol a Gynllun Cyflawni
Mae Strategaeth Tai Cyngor Bwrdeistref Caerffili: Agenda ar gyfer Newid (2021 - 2026) yn darparu 5 blaenoriaeth wedi’u nodi gan y Cyngor a’i bartneriaid i fynd i’r afael â’r sialensiau tai yn y Fwrdeistref Sirol.
Ei gweledigaeth yw darparu tai fforddiadwy o ansawdd dda, a darparu amrywiad o wasanaethau sy'n helpu pobl i fyw yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu tai eu hun, cwrdd ag anghenion a dyheadau’r genhedlaeth yma a chenedlaethau’r dyfodol.
Cafodd y strategaeth yma ei chymeradwyo gan y Cyngor yn Hydref 2021.
Strategaeth Tai - Agenda ar gyfer Newid 2021-2026 (PDF)
Hawdd ei ddeall : Strategaeth Tai - Agenda ar gyfer Newid 2021-2026 (PDF)
Mae’r strategaeth yma hefyd ar gael fel cyfres o glipiau fideo Iaith Arwyddion Prydain:
Aelod Cabinet Ymlaen
Gweledigaeth Tai & Blaenoriaethau Strategol
Blaenoriaeth Strategol: Creu Dewisiadau Gwell
Blaenoriaeth Strategol: Creu Lleoedd Gwych i Fyw
Blaenoriaeth Strategol: Creu Cartrefi Iach a Chymdogaethau Bywiog
Blaenoriaeth Strategol: Darparu Cartrefi Newydd
Blaenoriaeth Strategol: Cefnogi Anghenion Tai Arbenigol
Gynllun Cyflawni
Mae’r Strategaeth Tai Lleol yn cael ei chynorthwyo gan Gynllun Cyflawni. Pwrpas y Cynllun Cyflawni yw nodi'r camau gweithredu mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn bwriadu eu cymryd dros y 5 mlynedd nesaf i helpu gwireddu'r weledigaeth hirdymor ar gyfer tai sydd wedi'i chynnwys yn y Strategaeth Tai Lleol. Bydd y Cynllun Cyflawni'n cael ei fonitro'n rheolaidd a bydd cynnydd yn cael ei adrodd i Bartneriaeth Tai Fforddiadwy Caerffili a'r Pwyllgor Tai ac Adfywio.