Polisi Dyrannu Cyffredin
Mae’r polisi hwn yn nodi’n fanwl pwy sydd a phwy sydd ddim yn gymwys ar gyfer tai Landlord Cymunedol yn y fwrdeistref sirol a sut y byddwn yn gwneud yr asesiad yma. Mae hefyd yn nodi sut y gallwch wneud cais a chael mynediad at y llety yma, ac ym mha drefn y byddwch yn cael eich ailgartrefu.
Cyn cwblhau’r polisi cynhaliwyd Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb gennym er mwyn adnabod a, lle bo’n berthnasol, lliniaru unrhyw effeithiau negyddol neu niweidiol ar y grwpiau hynny o bobl a ystyrir yn ‘nodweddion a warchodir’ o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Polisïau Gosod Lleol
Gall eiddo a osodwyd drwy'r gofrestr tai cyffredin fod yn destun polisi gosod lleol. Mae polisïau o'r fath yn gosod naill ai gyfyngiad ar bwy all gael eu hystyried ar gyfer eiddo neu ddarparu meini prawf sy'n rhoi blaenoriaeth i grwpiau penodol o bobl. Mae'n rhaid iddynt fod yn seiliedig ar dystiolaeth a bod â chyfyngiad amser, ac yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â phroblem benodol.
Mae manylion o ran pryd y gall polisi gosod lleol gael ei ddefnyddio gan landlord yn cael eu cynnwys yn adran 4 o'r polisi dyrannu cyffredin.
Ar hyn o bryd mae'r polisïau gosod lleol canlynol yn cael eu defnyddio: