Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. 

Mae’r Ddeddf yn newid y ffordd yr eir ati i asesu anghenion pobl a’r ffordd yr eir ati i ddarparu gwasanaethau- bydd gan y bobl mwy o lais yn y gofal a’r cymorth y maen nhw’n ei dderbyn.

Y mae hefyd yn hyrwyddo’r amrywiaeth o gymorth sydd ar gael yn y gymuned i leihau’r angen am gymorth ffurfiol, wedi’i gynllunio.

  • bydd gwasanaethau ar gael i ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg gywir
  • bydd mwy o wybodaeth a chyngor ar gael
  • bydd asesiadau yn symlach a chymesur
  • bydd gan ofalwyr hawl cyfartal i dderbyn asesiad i gael cymorth
  • bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn fwy diogel rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Fel y nodir yn Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) i reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gweithio mewn partneriaeth.

Mae angen i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol hefyd sicrhau gwasanaethau effeithiol, a bod gofal a chymorth ar waith i ddiwallu anghenion eu poblogaeth briodol yn y ffordd orau.

Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Mae Rhan Dau, adran 14 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn datgan bod rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnal asesiad ar y cyd i ganfod anghenion gofal a chymorth, a’r cymorth sydd ei angen ar ofalwyr yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.

Mae’r gofal a chymorth yn ymwneud â phobl y gwyddys y gwasanaethau cymdeithasol amdanynt a’r rheini sy’n derbyn cymorth drwy wasanaethau ataliol.

Bydd yr asesiad o anghenion y boblogaeth yn cynnwys dwy ran:

  • Asesu faint o bobl neu ofalwyr sydd angen gofal a chymorth ac i ba raddau y mae angen y fath gymorth.
  • Asesu ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, eu gofalwyr, i atal anghenion penodol rhag codi a dwysau, a’r camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Rhaid cyhoeddi asesiad cyntaf o anghenion y boblogaeth erbyn Ebrill 2017 a chyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf ym mis Ebrill 2022.

Cynllun Ardal Ranbarthol 

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd baratoi a chyhoeddi cynllun sy'n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y maent yn bwriadu eu darparu, neu drefnu eu darparu, mewn ymateb i asesiad o anghenion y boblogaeth.

Rhaid i gynlluniau ardal gynnwys y gwasanaethau penodol a gynllunnir mewn ymateb i bob thema graidd a nodwyd yn yr asesiad o'r boblogaeth.

Fel rhan o hyn, mae'n rhaid i gynlluniau ardal gynnwys:  

  • y camau gweithredu y bydd partneriaid yn eu cymryd mewn perthynas â'r meysydd integreiddio sydd o flaenoriaeth i Fyrddau Partneriaeth Ranbarthol
  • achosion a manylion cronfeydd cyfun fydd yn cael eu sefydlu mewn ymateb i'r asesiad o'r boblogaeth
  • sut y caiff gwasanaethau eu caffael neu sut trefnir eu darparu, gan gynnwys modelau cyflenwi eraill
  • manylion y gwasanaethau ataliol fydd yn cael eu darparu neu eu trefnu
  • camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth 
  • y camau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg 

Cyhoeddwyd y cynllun ardal cyntaf ym mis Ebrill 2018 gyda’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn sicrhau cysylltiadau rhwng y Cynllun Ardal a Chynlluniau Llesiant yr awdurdodau lleol sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i hwyluso cydweithio ac osgoi dyblygu.

Y manteision a ddisgwylir yw mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio rhanbarthol, comisiynu ar y cyd a gwneud y gorau o adnoddau.

Dogfennau Cysylltiedig

I gael copi o unrhyw un o’r dogfennau a restrir isod ewch i https://www.gwentrpb.wales/

  • Crynodeb PNA
  • Asesiad Anghenion Poblogaeth Gwent
  • Cynllun Ardal Llesiant
  • Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

Cysylltwch

I gael rhagor o wybodaeth neu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol e-bostiwch gwentregionalpartnershipboard@torfaen.gov.uk neu ewch i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol a restrir isod: