Strategaeth Iechyd Meddwl Integredig
Mae partneriaid yng Ngwent wedi bod yn cydweithio ers 2 flynedd i lunio strategaeth iechyd meddwl integredig ar gyfer ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Lansiwyd y strategaeth yn ffurfiol ar 1 Chwefror 2013 ac mae ganddi 8 prif flaenoriaeth:
- Nod 1: Cyfathrebu a chydweithio â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, staff a chymunedau i gynllunio, monitro a darparu gwasanaethau iechyd meddwl
- Nod 2: Datblygu ystod eang o wasanaethau sy’n cynnal lles y gymuned
- Nod 3: Sicrhau y darperir ystod eang o ddewisiadau llety
- Nod 4: Sicrhau bod gwasanaethau yn y gymuned yn cynnig cymorth, cyngor a, lle bo angen, asesiadau a’r driniaeth angenrheidiol yn yr amgylchedd hwn
- Nod 5: Darparu gwasanaethau arbenigol i bobl pan a phryd y bydd eu hangen arnynt.
- Nod 6: Hwyluso ymateb priodol ar draws sefydliadau i ddiwallu anghenion pobl â dementia.
- Nod 7: Sicrhau’r defnydd gorau posib o adnoddau iechyd meddwl.
- Nod 8: Gweithio ar draws y 6 sefydliad i sefydlu cyfres o reolau a strwythur sy’n ategu’r trefniadau cydweithio, i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl ardderchog (llywodraethu)
Strategaeth Iechyd Meddwl Integredig