Strategaeth Ranbarthol Gwent ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2018-2023

Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?

Mae'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn canolbwyntio ar atal yr achosion hyn, amddiffyn y dioddefwyr a chefnogaeth ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan y materion hyn.

Mae hon yn ddarn unigryw o ddeddfwriaeth sy'n torri tir newydd

Mae'r Ddeddf yn cyflwyno gofynion ar gyfer...

  • Gweinidogion Cymru i wneud y canlynol: Paratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol mewn perthynas â'r materion hyn
  • Penodi Ymgynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar sail Rhyw, Trais yn y Cartref a Thrais Rhywiol

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol wneud y canlynol

  • Paratoi a chyhoeddi strategaethau er mwyn cyfrannu tuag at bwrpas y Ddeddf
  • Darparu hyfforddiant ac ymwybyddiaeth sylfaenol i'r holl staff yn yr Awdurdod Lleol (Grŵp 1)
  • Darparu hyfforddiant gwell i staff sydd fwyaf tebygol o fod yn cysylltu â'r rhai sy'n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol a mathau eraill o drais yn seiliedig ar ryw fel rhan o'u rolau. (Grŵp 2)
  • Adrodd ar sut y maent yn mynd i'r afael â’r materion hyn yn eu swyddogaethau addysgol, gan gynnwys unrhyw gamau a gymerir mewn ysgolion

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gweithio ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau'r trydydd sector yng Ngwent i gynhyrchu'r strategaeth ar y cyd gyntaf (2018-2023) gyda'r nod o derfynu ar drais yn erbyn menywod, trais rhywiol, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn unol â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Strategaeth Ranbarthol Gwent ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2018-2023 (PDF)