Gweithred Bositif 50+ Caerffili

Gweithred Bositif 50+ Caerffili: Heneiddio’n Dda, Byw’n Hirach yw ein cynllun cyflenwi lleol ar gyfer y Strategaeth Pobl Hŷn yng Nghymru. Mae’n defnyddio dull sydd wedi’i seilio ar ddinasyddion, gan sicrhau y dylai pobl hŷn gael eu hystyried fel cyfranogwyr gweithredol yn eu cymunedau yn ogystal â darpar ddefnyddwyr gwasanaethau.

Caiff y cynllun ei gyflenwi mewn partneriaeth â’r cyngor, y sector gwirfoddol, y sector iechyd, y sector preifat a Fforwm 50+ Caerffili. Maent yn cydweithio i ‘gynyddu i’r eithaf iechyd, annibyniaeth a chynnwys y rhai sy’n 50+ oed sy’n byw ac/neu’n gweithio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili’.

Byw’n Hirach, Heneiddio’n Dda Caerffili (PDF)

Blaenoriaethau ar gyfer 2016/2017  

Yn yr hinsawdd o gyfyngiadau ariannol a lleihau adnoddau y cafodd y cynllun cyflenwi ei ddatblygu ynddi, ymgymerir â’r dulliau canlynol yn ystod y ddwy flynedd hyn: 

  • Cydnabod a rhannu arfer da cyfredol sy’n hyrwyddo ac sy’n hwyluso lles pobl hŷn yn y fwrdeistref
  • Defnyddio ystod o fformatau’r cyfryngau ac ymgyrchoedd i annog a chefnogi’r newidiadau sydd eu hangen i wella lles pobl hŷn yn ein cymunedau:  
    • Cynyddu nifer y budd-daliadau a’r grantiau sy’n cael eu hawlio gan y rhai sydd â hawl iddynt
    • Codi ymwybyddiaeth am werth datblygu cymunedau oed-gyfeillgar  
    • Mynd i’r afael â gwahaniaethu 
    • Codi ymwybyddiaeth am atal cwympiadau
    • Lleihau unigrwydd ac ynysu ymhlith pobl 50+
  • I alluogi trigolion, lle bynnag y bo modd, i helpu eu hunain, eu perthnasau, eu ffrindiau, a’u cymdogion i heneiddio’n dda trwy gael mynediad at wybodaeth briodol a thrwy gefnogi trigolion i adnabod eu materion a’u datrysiadau eu hunain.

Y blaenoriaethau gweithio rydym yn bwriadu eu gweithredu: Byddwn yn annog partneriaid i gydweithio a, lle bynnag y bo’n bosib, i gronni adnoddau a chyllid.

Ymgyrch ‘Oed yw Rhif yn Unig!’

Fel arfer, yn ein cymdeithas heddiw y mae pobl hŷn a phobl iau yn derbyn y stereoteipio mwyaf negyddol. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o’r straeon negyddol am bobl ifainc sydd wedi’u gwisgo yn eu gwisgoedd ‘hwdi’ a’r bobl hŷn sydd, yn aml, yn cael eu disgrifio fel bod yn fregus ac sy’n anymwybodol o beth sy’n digwydd o ran technoleg fodern.

Mae ein hymgyrch ‘Oed yw Rhif yn Unig!’ yn un hir oes rydym yn ei chynnal yng Nghaerffili a thrwy’r ymgyrch hon, rydym yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth well, gwella goddefiant, a helpu i bontio bwlch y cenedlaethau rhwng pobl hŷn a phobl iau. 

Mae nifer o rannau i’r ymgyrch hon: 

  • Rydym yn defnyddio lluniau a syniadau grymus, cadarnhaol sydd wedi’u cyflwyno gan drigolion Caerffili a gobeithiwn y byddant, gydag amser, yn chwalu rhai o’r stereoteipiau negyddol sydd gan bobl.
  • Rydym wedi gofyn i ystod eang o bobl am eu barn ynghylch stereoteipio a’i effaith ar bobl, gan lunio adroddiad sy’n nodi eu hymatebion.
  • Rydym hefyd wedi datblygu ystod o hyfforddiant a chyflwyniadau y mae modd eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau a sesiynau hyfforddiant i dimau. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’n tîm Polisi Corfforaethol.

Cadw’n ddiogel, beth yw camdriniaeth a phwy sy’n gallu helpu?

Rydym yn falch i ddweud ein bod wedi cynhyrchu 22,000 o DVDau dwyieithog Cadw’n Ddiogel trwy gymorth ein partneriaid a Llywodraeth Cymru. Erbyn hyn, mae pob Cyngor Bwrdeistref Sirol ar draws Cymru wedi derbyn 100 o gopïau i’w dosbarthu i drigolion yn eu cymunedau sydd, o bosib, yn ynysig neu sy’n agored i niwed.

Cewch wybodaeth bellach a mynediad at 5 fideo byr ar-lein ar wefan 50+ Caerffili

Ymgyrch ‘Mae Simon yn Dweud’ 

Rydym yn creu cyfres o 12 o bosteri ‘Mae Simon yn Dweud’ sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol neu ar hysbysfyrddau ayb. Mae pob croeso i chi ddefnyddio a rhannu’r posteri hyn.

Adnoddau Gemau Urddas

Mae sicrhau bod pobl yn cael eu trin ag Urddas a Pharch yn hawl ddynol sylfaenol ond mae adroddiadau gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a’r Gymdeithas Cleifion ar “Urddas Mewn Gofal” yn pwysleisio bod agendor, fel arfer, rhwng arfer da ac arfer gwael yng Nghymru.

I helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn, rydym wedi datblygu gemau sy’n ymdrin â materion ynghylch urddas, parch a chydraddoldeb. Mae’r gemau hyn yn cynnig ffordd anffurfiol, effeithiol a hawdd ei defnyddio i ysgogi trafodaeth gan herio stereoteipio a chodi ymwybyddiaeth.

Nadroedd ac Ysgolion: Y pethau i’w gwneud ac i’w hosgoi o ran Urddas

Gan ddefnyddio Cardiau Her sydd â senarios, cwestiynau chwedl neu ffaith, a chwestiynau amlddewis, mae’r gêm yn cynnig ffordd ysgafn o drafod sut y gallwn ni fel swyddogion proffesiynol ddylanwadu ar ymddygiad ac ymatebion ein hunain ac ymddygiad ac ymatebion pobl eraill. Yr unig beth sydd ei hangen arnoch chi yw bwrdd Nadroedd ac Ysgolion.

Lawrlwythiadau:

Pecyn Gemau Tidy Gin

Sgrabl: Urddas yn Air Sgôr Ddwbl: Gan ddefnyddio gêm Sgrabl arferol a rheolau ychwanegol sy’n eich galluogi i hawlio gair sgôr ddwbl wrth ddefnyddio geiriau allweddol penodol. Lawrlwythwch y rheolau ychwanegol a fersiwn argraffadwy o’r cownter Dignity D. Gellwch chi hefyd bori oriel luniau Tidy Gin.

Gêm Cardiau Parau: Lawrlwythwch ac argraffwch y pecyn cardiau parau sy’n defnyddio ein delweddau cadarnhaol ‘Oed yw Rhif yn Unig!’

Chwilair: Lawrlwythwch ac argraffwch y taflenni chwileiriau â thema hyn. Rydym yn argymell eich bod yn eu lamineiddio ac yn defnyddio pen bwrdd gwyn a fydd yn eich galluogi i’w defnyddio dro ar ôl tro.

Cwis: Lawrlwythwch ac argraffwch gwestiynau’r cwis ac atebion y cwis. Mae’r atebion wedi’u huwcholeuo mewn coch.

Lawrlwythiadau:

Clybiau a Gweithgareddau Pontio’r Cenedlaethau 

Mae nifer o glybiau pontio’r cenedlaethau ardderchog ym mwrdeistref sirol Caerffili. Ewch i’r adran Clybiau Pontio’r Cenedlaethau am fanylion pellach.

Gwasanaethau a Chymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dewisiadau Gofal Preswyl

Mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu: Mae nifer o gyfleoedd ar gael i chi deithio o’ch cartref, ymuno â grŵp lleol neu deimlo eich bod yn rhan o’ch cymuned. Os ydych chi’n ansicr o ran ble i ddechrau, cysylltwch â’n cysylltwyr cymunedol sy’n gallu ymweld â chi a’ch helpu chi i’ch helpu eich hun.

Cyfeiriadur Cymunedol

Fforwm 50+ Caerffili

Mae gan y Fforwm wefan ddefnyddiol iawn sef www.caerphillyover50.co.uk a thudalen Facebook Caerphilly Over 50 mwy anffurfiol lle y gellwch chi ddod o hyd i lawer o wybodaeth a chyngor.

Hefyd, mae gan y Fforwm ffrwd Trydar ac maent yn trydar ac yn ail-drydar ystod o wybodaeth a chyngor gan ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Trydar: 50plus_agewell.

Ymgysylltu 50+ - Yr Hawl i Gael Eich Clywed

Nod y wefan hon yw cynnig offer a gwybodaeth y mae modd i bobl hŷn ei defnyddio os ydynt yn dymuno i’w llais gael ei glywed A HEFYD gan y swyddogion proffesiynol sy’n dymuno ymgysylltu â nhw mewn ffordd fwy effeithiol. Ewch i’r wefan Ymgysylltu 50+ - Yr Hawl i Gael Eich Clywed.