Adroddiad blynyddol y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol a thai 2022-2023

Cyflwyniad

Rwy'n falch o gyflwyno fy Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022/23 fel Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Dyma fy nghyfle i fyfyrio ar y cyflawniadau a'r heriau ar gyfer y flwyddyn dan sylw. Mae'n bwysig ar ddechrau'r adroddiad hwn fy mod yn gallu cadarnhau bod yr holl flaenoriaethau gwasanaeth a nodwyd ar gyfer y flwyddyn wedi'u cyflawni. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn 2023/24.

Yn sgil y pandemig Covid, y galw cynyddol am wasanaethau, a'r heriau ariannol parhaus sy'n wynebu Llywodraeth Leol, mae cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau hyn a chynnal gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson, wedi bod yn gyflawniad sylweddol ynddo'i hun.

Mae gwytnwch ac ymrwymiad ein gweithlu i’w canmol. Er bod gennym heriau parhaus mewn perthynas â recriwtio a chadw. Mae Caerffili yn ffodus i allu dibynnu ar staff sy'n angerddol am yr hyn maen nhw'n ei wneud, maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddarparu gwasanaethau da, ac maen nhw’n wirioneddol ymrwymedig i wella canlyniadau i'n dinasyddion. Mae hyn yn wir am y staff yr ydym yn eu cyflogi'n uniongyrchol a'r rhai yr ydym yn dibynnu arnynt o'n gwasanaeth a gomisiynir.

Mae perfformiad cyffredinol ar draws y Gyfadran wedi bod yn gryf er gwaethaf pwysau sylweddol yn deillio o'r GIG o ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn ogystal â phwysau yn y gwasanaethau plant sy'n ymwneud â chymhlethdod anghenion a diffyg argaeledd gwasanaethau.

Mae ein gallu i ymateb i bobl yn y gymuned ac mewn ysbytai wedi cael ei rwystro gan farchnad gofal sector annibynnol fregus iawn. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r partneriaid allweddol hyn i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn parhau i fod ar waith i ddiwallu anghenion a nodir.

Mae'r llwyth gwaith sy'n ymwneud â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn parhau i gynyddu yn ogystal â dylanwad strategol y Bwrdd ar ddarpariaeth weithredol o ddydd i ddydd.

Wrth wynebu 2023/24, bydd heriau eithriadol oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus, materion iechyd parhaus, a'r pwysau ehangach ar deuluoedd. Fodd bynnag, mae fy staff yn frwdfrydig ac yn benderfynol o barhau i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl ar draws pob elfen o'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dave Street

Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai

Crynodeb y cyfarwyddwr o berfformiad

Oherwydd y pandemig Covid-19, cafodd adroddiadau perfformiad ei atal gan Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno 'data pwynt gwirio', yn wythnosol i ddechrau ac yna bob pythefnos, i fonitro effaith y pandemig, yn enwedig mewn perthynas â gofynion llwyth gwaith ac adnoddau staff, gan gynnwys absenoldebau. Ar gyfer 2022-2023, adolygwyd y data pwynt gwirio hwn ac mae bellach yn cael ei gyflwyno'n fisol. Ar gyfer y flwyddyn gyntaf, cytunwyd na fydd data cymharol yn cael ei gyhoeddi. Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o'r set ddata perfformiad cenedlaethol ac wedi gweithredu Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol a fydd yn cael ei adrodd arno ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2023/24.

O ganlyniad, ni allaf ddarparu'r data perfformiad cymharol 3 blynedd traddodiadol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Fodd bynnag, cyflwynwyd Asesiad Perfformiad y Gyfadran (DPA) i'r Pwyllgor Craffu ar 20 Gorffennaf 2023 ac roedd y negeseuon allweddol fel a ganlyn:

Gwasanaethau i oedolion:

Mae nifer y bobl sy'n derbyn gwasanaethau yn parhau'n gyson, fodd bynnag, oherwydd y prinder cenedlaethol o weithwyr gofal cartref mewn mis cyffredin, roedd 577 awr o ofal na ellid ei ddarparu. Roedd nifer y bobl a oedd yn aros am ddarpariaeth pecyn gofal, ar gyfartaledd, yn 70 ar unrhyw un adeg.

Roedd cynnydd yn nifer yr asesiadau a'r adolygiadau a gwblhawyd ar draws y gwasanaethau i oedolion.

:

Ar gyfer y Gwasanaethau i Blant, roedd nifer yr atgyfeiriadau sy'n symud ymlaen i'w hasesu yn parhau'n gymharol sefydlog, fodd bynnag, roedd cymhlethdod y materion a gyflwynwyd yn cynyddu. Adroddwyd hefyd fod nifer y plant sydd wedi'u cynnwys ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a'r nifer sy'n dod yn ‘Derbyn Gofal’ yn sefydlog ar hyn o bryd.

Nodwyd bod perfformiad cyffredinol yn gadarnhaol heb unrhyw eithriadau i'w hadrodd.

Gellir gweld adroddiad Asesiad Perfformiad y Gyfadran yma: https://democracy.caerphilly.gov.uk/documents/s45794/Appendix%204.pdf

Sut mae pobl yn datblygu ein gwasanaethau?

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn gallu lleisio eu barn, p'un a yw hyn yn ymwneud â sut mae ein gwasanaethau'n cael eu datblygu a'u darparu yn y dyfodol neu a yw'n ymwneud â gwasanaeth y maen nhw’n ei dderbyn nawr. Rydym yn gwneud hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys cynnal arolygon, prosesau monitro contractau, ymweliadau Unigolion Cyfrifol â chartrefi gofal, cwynion a chanmoliaeth, digwyddiadau ymgynghori ac adborth gan Arolygiadau Rheoleiddiol.

Y ffordd bwysicaf o sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed ac y gwrandewir arnynt yw trwy bob cyswllt y caiff ein staff â defnyddwyr gwasanaeth. Mae hyn yn dechrau o'r pwynt cyswllt cyntaf â'r Gyfadran. Mae ein staff i gyd wedi derbyn hyfforddiant Cyfathrebu Cydweithredol i roi'r sgiliau iddynt gael 'sgyrsiau ystyrlon' i nodi 'beth sy'n bwysig' i bobl, gan gynnwys y canlyniadau personol y mae'r unigolyn am eu cyflawni a'r rhwydweithiau cymorth sydd ganddyn nhw eisoes ar waith i ddiwallu'r canlyniadau hyn. Mae unrhyw gynlluniau i ddarparu gofal neu gymorth yn cael eu cydgynhyrchu i sicrhau bod lleisiau a dewisiadau pobl yn cael eu cofnodi a'u hymateb yn briodol.

Mae ein holl wasanaethau Rheoleiddiedig wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a'u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Yn unol â'r gofynion, mae ein holl wasanaethau cofrestredig wedi cwblhau Adroddiadau Sicrhau Ansawdd a gyflwynir i AGC. Mae archwiliadau rheolaidd o gartrefi gofal wedi parhau ac mae'r adroddiadau arolygu a'r ffurflenni blynyddol oll ar gael ar wefan AGC: Hafan | Arolygiaeth Gofal Cymru

Mae cyfarfodydd ymgysylltu wedi parhau i gael eu cynnal gyda'r cyswllt AGC, Arolygydd yr Awdurdod Lleol a'r Uwch Dîm Rheoli

Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol broses statudol y mae'n rhaid ei dilyn pan fydd rhywun yn anhapus gyda'n gwasanaethau ac yn dymuno gwneud cwyn. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y modd y caiff cwynion eu trin yn gyflym ac yn effeithiol, gyda'r canlyniad y gellir datrys y rhan fwyaf o faterion cyn gynted â phosibl.

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Cwynion a Chanmoliaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Craffu ar 12 Medi 2023 a gellir ei gyrchu trwy'r ddolen ganlynol: Adroddiad Blynyddol Cwynion a Chanmoliaeth 2022-23.pdf (caerphilly.gov.uk)

Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd y Gyfadran 189 o gwynion; mae hyn yn gynnydd ar y 135 o gwynion a dderbyniwyd yn y flwyddyn flaenorol. Gwnaeth Tîm Cwynion a Gwybodaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol ymdrech sylweddol i geisio datrys materion er boddhad cwsmeriaid yng Nghyfnod 1 y broses ac mae'n gadarnhaol iawn adrodd bod y mwyafrif o gwynion yn dal i fod wedi’u datrys ar hyn o bryd.

Mae'r Tîm Cwynion a Gwybodaeth yn cofnodi p’un a yw cwynion yn cael eu cadarnhau, eu cadarnhau yn rhannol, neu beidio. Mae hyn yn galluogi'r Gyfadran i nodi unrhyw themâu a thueddiadau o'r canfyddiadau i wella arfer yn y dyfodol a nodi unrhyw ddigwyddiadau ynysig o arfer gwael a allai fod angen sylw.

O'r 189 o gwynion a dderbyniwyd yng Ngham 1, nodwyd y canlyniadau canlynol:

Caewyd 20 gyda 3 yn cael eu tynnu yn ôl gan yr achwynydd, 2 yn cael eu cyfeirio at asiantaethau eraill, a 15 yn destun prosesau eraill lle gellid datrys y materion a godir yn fwy priodol h.y. achosion cyfreithiol parhaus

Cadarnhawyd 13 o gwynion

Cadarnhawyd 8 cwyn yn rhannol

Ni chadarnhawyd 147 o gwynion

1 gŵyn yn parhau ar ddiwedd y flwyddyn

O'r 13 cwyn a gadarnhawyd:

5 yn ymwneud â’r Gwasanaethau i Oedolion

3 yn ymwneud â’r Gwasanaethau i Blant a

5 yn ymwneud â'r Weithdrefn Cwynion Corfforaethol

Derbyniodd y Gyfadran 11 cais i fwrw ymlaen â chwynion i ymchwiliad ffurfiol Cam 2, gyda 7 yn cael eu trin o dan y Gweithdrefnau Cwynion Corfforaethol, a 4 yn symud ymlaen i Ymchwiliad Annibynnol. Yn ogystal, roedd 9 cyswllt gan ein cwsmeriaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) – gostyngiad bychan o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. O'r rhain:

Mewn 5 achos, cadarnhaodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod Caerffili wedi dilyn y broses ddyledus

Mewn 2 achos, nid oedd Caerffili wedi gallu dilyn gweithdrefnau ac felly cyfeiriwyd y materion yn ôl at y Cyngor i ddod i gasgliad

Tynnodd 1 achwynydd ei gŵyn yn ôl, ac

Mewn 1 achos, gofynnwyd i Gaerffili gwblhau ymchwiliad Cam 2 (wedi'i gynnwys yn y ffigur a adroddwyd uchod).

Mae'r Gyfadran yn gwerthfawrogi pwysigrwydd dysgu o gwynion a sylwadau a bod angen rhoi pwyslais cyfartal ar ddysgu o ganlyniadau cadarnhaol.

Derbynnir canmoliaeth gan dimau ar ffurf cardiau diolch, llythyrau ac e-byst, ac anfonir y rhain at y Tîm Cwynion a Gwybodaeth er mwyn eu cofnodi. Yn 2022/23, derbyniwyd 233 o ganmoliaethau, gyda 166 (71%) ohonynt yn ymwneud â'r Gwasanaethau i Oedolion a 67 (29%) yn ymwneud â'r Gwasanaethau i Blant. Mae hyn yn gynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sy'n ganlyniad i brosesau cofnodi gwell. Mae'r rhaniad canran yn debyg i flynyddoedd blaenorol ac yn adlewyrchu natur y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y ddau faes.

Yn ogystal, mae ymatebion blynyddol yr arolwg gan rai meysydd gwasanaeth yn arwain at adborth cadarnhaol y gellir ei ddefnyddio i fesur llwyddiant y Gyfadran yn y meysydd hynny.

Hyrwyddo a gwella lles y rhai rydyn ni’n eu helpu

Fel y nodwyd yn Adran 3 uchod, mae staff Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Caerffili (IAA) yn cael eu hyfforddi i gynnal 'sgyrsiau ystyrlon' gyda defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Mae 'sgyrsiau ystyrlon' yn dechrau gyda staff IAA y tro cyntaf i rywun gysylltu â ni. Mae'r sgyrsiau hyn yn canolbwyntio ar gryfderau pobl, ar weithio gyda phobl i gynnal neu adennill eu hannibyniaeth, a defnyddio eu sgiliau a'u rhwydweithiau eu hunain i gyflawni eu canlyniadau dymunol lle bynnag y bo modd.

Mae'n bwysig cydnabod bod mwyafrif y cysylltiadau ar gyfer y Gwasanaethau i Blant gan weithwyr proffesiynol ac, o ganlyniad, nid yw'r sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' gyda'r plentyn a/neu eu teulu yn gallu digwydd nes bod asesiad ar gyfer Gofal a Chymorth wedi dechrau.

Egwyddor arweiniol i Wasanaethau Cymdeithasol Caerffili yw hyrwyddo a chynnal annibyniaeth.

Ar gyfer y Gwasanaethau i Blant, mae hyn yn golygu cefnogi teuluoedd i aros gyda'i gilydd a chynnal plant yn eu cartrefi a'u cymunedau lle bynnag y bo'n ddiogel gwneud hynny. Mae hyn yn seiliedig ar asesiadau amserol o angen ac atebion creadigol sy'n cael eu ceisio i helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd.

Er bod gan rai teuluoedd farn negyddol am y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant i ddechrau, rydym yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u rhieni a'u gofalwyr yn cymryd rhan lawn yn y broses asesu a'u bod yn helpu i lunio a dylanwadu ar eu cynllun ar gyfer gofal a chymorth. Mae gweithio fel hyn yn helpu i wella perthnasoedd gwaith dros amser.

Er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau neu wneud eu barn yn hysbys, mae gan bob plentyn fynediad at Eiriolwr Annibynnol a all eu cefnogi mewn cyfarfodydd i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Ni oedd yr Awdurdod Lleol cyntaf i ddatblygu gwasanaeth Eiriolaeth Rhieni statudol a ariennir ar y cyd gan Teuluoedd yn Gyntaf. Yn dilyn hynny, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid i dreialu cyflwyno'r model ar draws pedwar Awdurdod Lleol arall yng Ngwent.

Mae cefnogi pobl i gadw neu adennill eu hannibyniaeth yn amcan allweddol i bawb sy'n gweithio o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae gennym fynediad llawn i'r gronfa ddata lles dinasyddion genedlaethol o'r enw DEWIS fel y gall pobl gael mynediad cyflym a hawdd at wybodaeth yn uniongyrchol o wefan yn hytrach na gorfod gwneud galwad i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a/neu siarad â gweithiwr proffesiynol lle mae'n well ganddynt beidio â gwneud hynny. Mae gennym swyddog arweiniol pwrpasol i symud datblygiad DEWIS ymhellach.

Mae'r Gwasanaethau i Oedolion wedi cyflwyno gwasanaeth asesu ar gyfer gofal cartref i geisio hyrwyddo annibyniaeth pobl lle bynnag y bo modd gan ddefnyddio dull 'Ailalluogi'. Mae hyn wedi galluogi pobl i gael eu rhyddhau o'r ysbyty a chael eu hasesu yn eu cartrefi eu hunain.

Yn ogystal, rydym wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i gael mynediad i'w gwasanaethau gofal cartref i ryddhau pobl o'r ysbyty sydd angen pecyn gofal mawr. Felly, rydym wedi lleihau eu harhosiad a'u galluogi i ddychwelyd i'w cartref eu hunain sy'n gwella eu lles.

Rydym wedi agor siop goffi wedi'i staffio gan 12 unigolyn ag anabledd dysgu a fynychodd wasanaethau dydd o'r blaen. Rydym wedi cyflogi 7 unigolyn ar delerau ac amodau'r Cyngor ac rydym yn bwriadu cynyddu'r nifer hwn.

Sut wnaethom fynd i'r afael â'n blaenoriaethau ar gyfer 2022/23:

Fe wnaethom ymgorffori'r model derbyn asesu ar gyfer gofal i hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth pobl gyda chanlyniadau cadarnhaol iawn. Dangosodd y data 3 mis cyntaf mai dim ond 34% o'r bobl a aeth drwy'r gwasanaethau asesu oedd angen pecyn gofal tymor hir.

Rydym wedi sefydlu swydd ranbarthol i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar Daliadau Uniongyrchol i ganiatáu dewis unigolyn o'r ffordd y mae eu gofal a'u cymorth yn cael eu darparu i ddiwallu eu hanghenion orau, i safoni arferion ac i hyrwyddo'r gwasanaeth.

Rhannwyd dysgu o Gaerffili ledled Cymru i gefnogi cyflwyno Eiriolaeth Rhieni yn llwyddiannus mewn Gwasanaethau i Blant

Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24?

Adnewyddu'r hyfforddiant sgyrsiau cydweithredol ar gyfer staff rheoli asesu gofal ar draws y gwasanaethau oedolion a datblygu rôl y mentor i ganolbwyntio ar gael sgyrsiau 'beth sy'n bwysig'

Ymgorffori'r gwaith o gynllunio gofal sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ailalluogi ar draws y gwasanaethau i oedolion

Gweithio gyda phobl a phartneriaid i ddiogelu a hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol pobl

Mae Caerffili yn cydnabod pwysigrwydd gweithio gyda phobl a'n partneriaid i wella canlyniadau i bob defnyddiwr gwasanaeth a bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni wrth symud ymlaen.

Mae Caerffili yn bartneriaid gweithredol ym Mhartneriaeth Plant a Theuluoedd Gwent gyfan sy'n parhau i flaenoriaethu datblygu dulliau integredig o gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys datblygu Fferm Melin Wynt, adnodd asesu preswyl rhanbarthol a reolir gan Gyngor Dinas Casnewydd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n gwasanaethu pum Awdurdod Lleol Gwent.

Mae Gwasanaeth Trawma Ymlyniad Gwent wedi parhau i gynnig cyngor, ymgynghoriad a hyfforddiant i dimau gwaith cymdeithasol Caerffili gyda'r nod o gefnogi plant a phobl ifanc i barhau i fyw gartref neu aros mewn lleoliadau maeth sefydlog.

Mewn ymateb i bolisi Llywodraeth Cymru i 'Ddileu Elw mewn Gofal Preswyl Plant', cafodd y Gwasanaethau i Blant gymeradwyaeth Gorfforaethol a Gwleidyddol i ehangu darpariaeth gofal preswyl mewnol, gan gynnwys cartrefi plant ychwanegol, llety â chymorth i bobl ifanc sy'n Gadael Gofal ac ar gyfer Plant ar eu Pennau eu Hunain sy'n Ceisio Lloches (UASC). Bydd y cynlluniau hyn yn golygu agor dau gartref plant bach ac eiddo UASC ychwanegol yn ystod 2023/24.

Ar draws y Gwasanaethau i Oedolion, rydym yn parhau i ddatblygu gwasanaethau i atal mynediad diangen i'r ysbyty a hwyluso rhyddhad diogel amserol i unigolion y mae'n rhaid eu derbyn. Mae'r Tîm Adnoddau Cymunedol (CRT) wedi gosod staff cymunedol yn Ysbyty Ystrad Fawr i weithio gydag unigolion, eu teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol. Ymhlith y mentrau mae mynediad i rediadau Gofal Cartref y Bwrdd Iechyd a datblygu gwelyau 'gam yn nes at adref' mewn cartrefi gofal ar gyfer lleoliadau dros dro i atal pobl rhag aros yn yr ysbyty unwaith y byddan nhw’n sefydlog yn feddygol.

Rydym wedi cydnabod bod nifer cynyddol o bobl yn profi problemau iechyd meddwl ar lefel is a'u bod yn disgyn rhwng y gwasanaethau presennol. Mewn ymateb, rydym wedi datblygu Tîm i fynd i'r afael â'r bwlch hwn. Mae'r Tîm yn gweithio gyda phobl â gorbryder, hwyliau isel, hunan-barch isel a materion cysylltiedig. Mae'r Gweithwyr Iechyd Meddwl yn darparu cefnogaeth emosiynol drwy gydol ymyriadau ac mae unigolion yn gallu cael mynediad i'r gwasanaeth dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi unigolion sydd â thai, incwm, budd-daliadau, cyflogaeth a byw'n iach lle bo angen, oll yn defnyddio amrywiaeth eang o asiantaethau statudol, gwirfoddol a thrydydd sector.

Fel rhan o Raglen Llunio Lleoedd y Cyngor, cytunodd y Cabinet i ddyrannu cyllid cyfalaf i ddatblygu dau gyfleuster seibiant newydd – un i oedolion ac un i blant. Bydd y datblygiadau hyn yn disodli ac yn cynyddu'r ddarpariaeth bresennol i barhau i gefnogi rhieni a gofalwyr yn eu rolau gofal di-dâl.

Sut wnaethom fynd i'r afael â'n blaenoriaethau ar gyfer 2022/23:

Buom yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i alluogi pobl i aros yn y gymuned drwy weithredu dull 6 nod Llywodraeth Cymru.

Buom yn gweithio gyda chyd-weithwyr rhanbarthol i gyflwyno Pontio'r Bwlch, fframwaith i gefnogi gofalwyr di-dâl. Caiff hyn ei ariannu o'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol.

Mae'r gwaith dymchwel wedi dechrau ar y safle ar gyfer datblygu'r tai seibiant newydd i oedolion ac i blant.

Mae dau eiddo wedi'u prynu i ddatblygu cartrefi plant dau wely.

Rydym yn parhau i gefnogi'r Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol drwy gynnig llety i Blant ar eu Pennau eu Hunain sy'n Ceisio Lloches a nodwyd i'w drosglwyddo gan y Swyddfa Gartref ac mae tŷ 4 gwely ychwanegol yn cael ei gynllunio i letya’r bobl ifanc.

Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24?

Gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i weithredu'r cynllun cydnerthedd system i alluogi pobl i aros gartref neu gael eu rhyddhau o'r ysbyty mewn modd amserol.

Cynyddu capasiti ar gyfer seibiant i blant ag anableddau drwy ailgofrestru darpariaeth bresennol i ddarparu cymorth ychwanegol i rieni/gofalwyr.

Datblygu dyluniad y tai seibiant ar gyfer oedolion a phlant.

Parhau i ehangu gofal preswyl plant a llety â chymorth i bobl ifanc ledled y Fwrdeistref Sirol.

Parhau i gefnogi'r Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol drwy gynnig llety i Blant ar eu Pennau eu Hunain sy'n Ceisio Lloches

Cymryd camau i amddiffyn a diogelu pobl rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu niweidio

Diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yw un o'r blaenoriaethau uchaf i'r Cyngor ac mae'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol.

Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae'n thema allweddol sy'n rhedeg drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O ganlyniad, rydym yn sicrhau bod ein staff, contractwyr a phartneriaid yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau yn y maes hwn. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol ar waith ac mae rhaglen o hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ar waith. Mae gan bob maes gwasanaeth Swyddog Diogelu Dynodedig (DSO) a chynhelir grwpiau datblygu ymarfer cyfnodol i gefnogi'r DSO.

Mae'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol ar gyfer Aelodau Etholedig a rhannwyd Adroddiad 2022/23 gyda'r Pwyllgor Craffu ar 11 Gorffennaf 2023. Gellir cyrchu'r adroddiad trwy'r ddolen ganlynol: Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 22-23.pdf (caerphilly.gov.uk)

Mae'r trefniadau ar gyfer gwella polisïau, gweithdrefnau ac arferion diogelu ledled y rhanbarth yn cael eu harwain gan Fyrddau Diogelu De-ddwyrain Cymru ar gyfer Oedolion a Phlant (SEWSB) a'r Bwrdd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV). Cefnogir y Byrddau hyn gan Uned Fusnes a ariennir gan y partneriaid statudol ac a gynhelir gan Gaerffili. Mae gan y Byrddau strwythurau llywodraethu clir ac mae eu gwaith yn cael ei gefnogi gan ystod o is-grwpiau. Mae Caerffili yn bartner gweithredol ar y Byrddau hyn.

O fewn y Cyngor, mae'r cyfrifoldeb dros ddiogelu plant ac oedolion yn perthyn i'r Gwasanaethau i Blant. Er bod meysydd gwasanaeth arwahanol, maen nhw’n cael eu rheoli gan un Rheolwr Gwasanaeth ac mae capasiti a gwytnwch wedi'i wella o ganlyniad.

Gwneir penderfyniadau ar atgyfeiriadau pob plentyn o fewn 24 awr gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gweithdrefnau statudol. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru wedi'u gwreiddio'n llawn ar draws y Gyfadran ac mae disgwyl i'r Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol gael ei weithredu'n llawn erbyn diwedd 2023.

Sut wnaethom fynd i'r afael â'n blaenoriaethau ar gyfer 2022/23:

Fe wnaethom barhau i ymgorffori dysgu o Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant.

Fe wnaethom adolygu blaenoriaethau Cynllun 3 Blynedd y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

Fe wnaethom weithredu'r Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol o fis Tachwedd 2022 a disgwylir diweddariadau pellach yn ystod 2023.

Fe wnaethom barhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu System Rheoli Dysgu ar draws y Cyngor (LMS) i gofnodi presenoldeb a chydymffurfiaeth hyfforddiant diogelu.

Rydym yn aros am ganfyddiadau Archwilio Mewnol yn dilyn eu hadolygiad o'r prosesau Hunanasesu Diogelu Corfforaethol.

Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24?

Parhau i ymgorffori dysgu o Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant

Gweithredu System Rheoli Dysgu ar draws y Cyngor (LMS) i gofnodi presenoldeb a chydymffurfiaeth hyfforddiant diogelu.

Ymateb i ganfyddiadau Archwilio Mewnol y prosesau Hunanasesu Diogelu Corfforaethol.

Ymateb i ofynion newidiol y Fframwaith Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol.

Annog a chefnogi pobl i ddysgu, datblygu a chymryd rhan mewn cymdeithas

Mae cefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal a Phobl Ifanc sy’n Gadael Gofal i gyflawni eu potensial llawn a sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn flaenoriaeth allweddol i’r Gwasanaethau i Blant a'r Grŵp Rhianta Corfforaethol.

Mae gan Gaerffili hanes profedig o gefnogi pobl ifanc i addysg bellach ac uwch ac mae nifer o Ymadawyr Gofal wedi ennill Graddau a chymwysterau tebyg. Parhaodd 50% o'r rhai sy'n gadael gofal i gymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis ar ôl gadael gofal.

Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig i bobl fod yn fwy hunanddibynnol a chynnal eu hannibyniaeth gan eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas a'u cymuned leol. Rydym wedi ymgorffori system wybodaeth DEWIS fel y gall pobl gael gafael ar wybodaeth eu hunain 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Mae galluogi pob oedolyn i gyflawni ei ganlyniadau wedi bod yn nodwedd allweddol wrth ddarparu gwasanaethau dydd amgen mewn ymateb i'r pandemig Covid. Bydd y dysgu o ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol sy'n diwallu anghenion unigol yn allweddol i gomisiynu darpariaeth gwasanaeth dydd modern ac addas i'r diben wrth symud ymlaen. Rwy'n cydnabod bod y newidiadau o amgylch gwasanaethau dydd wedi bod yn heriol i rai o'n defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o'u teuluoedd, ond rwy'n hyderus y bydd y newidiadau hyn, gydag amser, yn cael eu gweld mewn golau cadarnhaol.

Mae agor siop goffi sydd wedi'i staffio gan unigolion a arferai fynychu gwasanaethau dydd wedi cael derbyniad da iawn ac fe'i defnyddir yn rheolaidd gan drigolion lleol. Mae hon yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy ddarparu gwasanaethau'n wahanol.

Sut wnaethom fynd i'r afael â'n blaenoriaethau ar gyfer 2022/23:

Fe wnaethom gomisiynu sefydliad annibynnol i gynhyrchu model o wasanaethau dydd; cytunwyd ar hyn gan y Cabinet ac mae'n seiliedig ar arfer da ledled y wlad.

Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24?

Edrych ar agor siop goffi arall yng nghanolfan hamdden Trecelyn er mwyn galluogi mwy o bobl i gael y cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau.

Ystyried cyflogi unigolion mewn arlwyo o dan delerau ac amodau'r Cyngor.

Cefnogi pobl i ddatblygu a chynnal perthynas ddomestig, deuluol a phersonol iach yn ddiogel

Rydym am gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion i fod mor weithgar yn gymdeithasol â phosibl, i deimlo y gallan nhw wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain a chadw eu hunain yn ddiogel.

Rydym wedi ymgorffori'r "sgyrsiau sy'n bwysig" ar draws y Gyfadran a staff hyfforddedig i wella eu sgiliau i ganolbwyntio ar ganlyniadau, cryfderau ac asedau pobl, eu teuluoedd a'u rhwydweithiau.

Rydym yn cydnabod bod pobl sy'n cael perthnasoedd boddhaus â'r rhai y maen nhw’n agos atyn nhw’n bwysig iawn i'w lles.

I blant sy'n derbyn gofal, mae cadw cysylltiad â'u teuluoedd a'u cymunedau cartref yn bwysig iawn ac mae'r Gwasanaethau i Blant yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod trefniadau cyswllt yn diwallu anghenion pawb sy'n gysylltiedig ac yn ddigwyddiadau cadarnhaol.

O fewn y Gwasanaethau i Oedolion, fe wnaethom barhau i recriwtio gofalwyr i'n Cynllun Cysylltu Bywydau i'n galluogi i gynnig mwy o ddewis a chynyddu nifer y lleoliadau y gallwn eu cynnig mewn cartrefi teuluol i bobl o bob grŵp cleientiaid. Fe wnaethom hefyd ddarparu cyllid i ganiatáu addasiadau i gartrefi pobl, fel rampiau a chawodydd, i ganiatáu i bobl aros yn annibynnol.

Rydym wedi parhau i hwyluso Grwpiau Gofalwyr ar draws y Fwrdeistref Sirol i alluogi gofalwyr i gwrdd yn gymdeithasol dros goffi. Mae ein Tîm Gofalwyr yn mynychu llawer o ddigwyddiadau i hyrwyddo eu gwasanaeth ac mae eu hymdrechion wedi cael eu cydnabod.

Roeddem yn cydnabod bod gennym fwy o waith i'w wneud o ran cefnogi perthnasoedd a daeth hyn yn flaenoriaeth i ni wrth symud ymlaen o ran ehangu clwb My Mates.

Yn y Gwasanaethau i Blant, lle bynnag y bo'n bosibl, a phan fo'n ddiogel gwneud hynny, rydym yn sicrhau bod plant yn cael eu lleoli mor agos â phosibl at eu cymunedau cartref er mwyn cefnogi eu cysylltiadau â'u teulu a'u cartref.

Mae galwadau cynyddol yn cael eu rhoi arnom i recriwtio mwy o ofalwyr maeth er mwyn diwallu anghenion plant a phobl ifanc. Rydym yn parhau i gynnal ymgyrch recriwtio ar y radio sydd wedi helpu i gynyddu'r ymholiadau a dderbyniwn, ond rydym yn parhau i weld y gyfradd uchaf o ymholiadau yn dod o argymhellion 'ar lafar' gan ofalwyr maeth presennol. Rydym yn ymwneud yn llawn â datblygiadau Maethu Cymru ar gyfer gwasanaethau recriwtio, cadw a chefnogi gofalwyr maeth.

Mae recriwtio'r holl staff, ond yn enwedig Gweithwyr Cymdeithasol Cymwysedig, yn her sylweddol a chynyddol ac mae Caerffili yn cefnogi'r dulliau cenedlaethol sy'n cael eu gwneud gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC).

Sut wnaethom fynd i'r afael â'n blaenoriaethau ar gyfer 2022/23?

Fe wnaethom ehangu Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru gyda'r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaeth i oedolion hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Buom yn gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu mecanweithiau i alluogi unigolion i sefydlu a chynnal cyfeillgarwch.

Fe wnaethom barhau â'r cynllun secondiad er mwyn i staff ymgymryd â'r Radd Gwaith Cymdeithasol.

Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24?

Ehangu Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru ymhellach i gynnwys Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf i ddarparu gwasanaeth mwy ar gyfer cymorth tymor hir a sesiynol.

Gweithredu canolbwynt gyda phartneriaid i edrych ar sut y cyflawnir canlyniadau i bobl.

Parhau â'r cynllun secondiad er mwyn i staff ymgymryd â'r Radd Gwaith Cymdeithasol.

Gweithio gydag Adnoddau Dynol Corfforaethol i nodi ffyrdd o fynd i'r afael â'r heriau recriwtio a chadw ehangach ar draws y Gwasanaeth.

Gweithio gyda phobl a’u cefnogi i gyflawni gwell lles economaidd, cael bywyd cymdeithasol, a byw mewn llety addas sy'n diwallu eu hanghenion

Mae'r Gwasanaethau i Blant yn cefnogi plant sy'n derbyn gofal i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant ac yn darparu cymorth unigol lle bo angen. Anogir plant i wneud y defnydd gorau o'u hamser hamdden ac fe'u cefnogir i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol lle bynnag y bo modd.

Mae gan y Gwasanaethau i Blant brotocol gweithredol sefydledig gyda’r adran Dai i sicrhau y gallwn ddarparu cymorth priodol i bobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd. Mae gennym amrywiaeth o lety â chymorth ar gael gan gynnwys darpariaeth cyd-fyw, llety â chymorth a thenantiaethau â chymorth. Fel y nodwyd yn Adran 5, rydym yn bwriadu ehangu ein darpariaeth fewnol o gartrefi plant ac opsiynau llety eraill i ddiwallu anghenion ein plant a'n pobl ifanc.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu cymunedau sy'n gyfeillgar i ddementia fel y gellir cefnogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau arferol bywyd bob dydd fel siopa, bancio a bwyta allan. Byddwch yn gweld yr arwyddion cyfeillgar i ddementia mewn sefydliadau lleol a llawer o bobl yn gwisgo'r bathodyn blodau glas sy'n nodi eu bod wedi cael eu hyfforddi fel ffrind dementia.

Mewn cartrefi gofal y Gwasanaethau i Oedolion, gallwch weld llawer o wahanol arddangosfeydd a themâu sy'n adlewyrchu bywydau cynharach pobl. Mae'r rhain yn newid yn rheolaidd a gallan nhw adlewyrchu digwyddiadau cyfredol. Mae'r cartrefi bellach wedi'u rhannu'n unedau tai bach gyda’u tîm staff eu hunain fel y gallan nhw ddod i adnabod y preswylwyr yn dda. Mae'r amgylchedd ffisegol o fewn rhai o'r cartrefi hefyd wedi newid gyda chyflwyno lliwiau sylfaenol sy'n adlewyrchu dewis pobl o ddrws eu hystafell wely ac mae ardaloedd cymunedol yn fwy disglair ac yn fwy diffiniol.

Gyda'n partneriaid, fe wnaethom ehangu ein Cynllun Cysylltu Bywydau i edrych ar fenter iechyd sy'n darparu lleoliadau gyda theuluoedd i atal pobl rhag mynd i'r ysbyty a/neu hwyluso’r broses o’u rhyddhau i gartref teuluol. Mae hyn yn galluogi pobl i gael amser i wella, derbyn mwy o ymyriadau therapi, a chael asesiad o'u hanghenion mewn amgylchedd mwy priodol. Rydym wedi ymrwymo i'r model amgen hwn o lety.

Sut wnaethom fynd i'r afael â'n blaenoriaethau ar gyfer 2022/2023:

Rydym wedi cyflogi pobl ag anabledd dysgu ar delerau ac amodau'r Cyngor i weithio yn ein caffi.

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ar brosiect fflatiau Ffordd y Felin sydd bellach yn rhan o'r cynllun cyfalaf strategol rhanbarthol.

Rydym yn parhau i ddatblygu gofal preswyl plant a llety â chymorth i bobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol (hefyd yn Adran 5).

Beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer 2023/24?

Cynyddu nifer y bobl rydym yn eu cyflogi yn ein prosiectau cyfleoedd dydd ymhellach.

Agor cyfleuster seibiant ychwanegol ar gyfer plant ag anableddau.

Sut rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud?

Ein gweithlu a sut rydym yn cefnogi eu rolau proffesiynol

Ein staff yw'r ased mwyaf; mae gweithlu medrus a brwdfrydig yn hanfodol i ddiogelu a chefnogi pobl fregus, hyrwyddo annibyniaeth a gwella darpariaeth gwasanaethau. Mae sicrhau bod ymarferwyr a rheolwyr rheng flaen yn cael eu cefnogi a'u hyfforddi'n dda yn hanfodol i lwyddiant ein gwasanaeth. Mae ein gweithlu wedi bod yn gymharol sefydlog gyda staff yn cael eu cadw’n dda. Fodd bynnag, rydym yn gweld heriau cynyddol wrth recriwtio i swyddi penodol ar draws y Gwasanaethau i Oedolion a Phlant a phwysau cynyddol o ran cadw oherwydd nad yw graddfeydd cyflog cyfredol y Cyngor bellach yn gystadleuol gydag Awdurdodau Lleol cyfagos.

Mae gennym Dîm Datblygu'r Gweithlu ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac maen nhw’n gyfrifol am gyflwyno strategaeth hyfforddi a datblygu sy'n cefnogi cyfleoedd datblygu i staff ar bob lefel yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae'r Awdurdod yn dal cyfrifoldeb datblygu'r gweithlu dros y sector gofal cyfan. Mae'r Sector Gofal yn cyflogi dros 3,000 o staff gyda thua 50% yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol a 50% gan y sector annibynnol a'r trydydd sector. Mae galw sylweddol a heriau cyflenwi i staff ddarparu Gofal Cartref ac mae hwn yn argyfwng ledled y DU.

Rydym yn parhau i secondio staff i ymgymryd â'r Radd Gwaith Cymdeithasol.

Ein hadnoddau ariannol a sut rydym yn cynllunio ar gyfer y dyfodol

Mae rheoli cyllideb wedi'i ymgorffori fel swyddogaeth graidd y Timau Rheoli Adrannol (TRhA) a'r Uwch Dîm Rheoli (UDRh), gyda'r Rheolwr Gwasanaethau Ariannol yn aelod o'r Uwch Dîm Rheoli. Trafodir adroddiadau cyllideb gan y TRhA ac UDRh yn rheolaidd.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23, tanwariodd y Gyfadran swm o £432,000.

Mae'r twf mwyaf sylweddol yn y galw yn ystod 2022/2023 wedi parhau yn y meysydd canlynol:

Gofal preswyl sector annibynnol i blant

Gofal nyrsio i bobl hŷn

Byw â chymorth i bobl ag anableddau dysgu

Mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol wedi hynny yn cynyddu ac er bod y sefyllfa ariannol ar gyfer 2022/23 yn gymharol sefydlog, mae pryderon sylweddol ar gyfer 2023 a thu hwnt.

Mae dibyniaeth barhaus ar ffrydiau cyllid grant cyfyngedig o ran amser gan Lywodraeth Cymru yn tanseilio cynaliadwyedd tymor hwy. Er bod y broses o drosglwyddo'r Ariannu Gofal Integredig (ICF) i'r Gronfa Integreiddio Ranbarthol (RIF) wedi rhoi cyfnod byr o sefydlogrwydd i'r trefniadau ariannu presennol, bwriad Llywodraeth Cymru yw i gyllid RIF dapio'n gynyddrannol, gyda'r disgwyliad y bydd cyllid y Cyngor yn cwrdd â'r diffygion cynyddol mewn cyllid. Mae'r sefyllfa hon yn cael ei herio ledled Cymru.

Ein gwaith partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd

Mae Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi pwyslais allweddol ar weithio mewn partneriaeth ac, i'r perwyl hwn, mae'r Gyfadran yn bartner allweddol i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) Gwent Fwyaf gyda'r pedwar awdurdod lleol arall yng Ngwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae gwaith yr RPB yn cael dylanwad mawr dros waith y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghaerffili ac yn arbennig gydag Iechyd. Ers ei sefydlu, mae'r RPB wedi cynhyrchu:

Cynllun Ardal.

Datganiad ar Sefyllfa'r Farchnad sy'n amlinellu'r ddarpariaeth o wasanaethau presennol a pha wasanaethau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol.

Adroddiad blynyddol sy'n tynnu ynghyd holl waith yr RPB.

Mae rhagor o wybodaeth am waith yr RPB a chopïau o'r adroddiadau uchod ar gael ar ei wefan ar www.gwentrpb.wales/home

Fodd bynnag, nid yw ein gwaith partneriaeth wedi'i gyfyngu i'r RPB. Mae gennym amrywiaeth eang o wasanaethau a ddarperir gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill gan gynnwys:

Tîm datblygu'r gweithlu ar y cyd â Blaenau Gwent

Gwasanaeth Bregusrwydd Gwent a ddatblygwyd ar y cyd â'r pedwar awdurdod lleol arall a'r bwrdd iechyd

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar y cyd sy'n cwmpasu'r holl bartneriaid ledled Gwent.

Mae cynllun Cysylltu Bywydau yn rhedeg ar ran chwe awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Gwasanaeth Mabwysiadu rhanbarthol ar y cyd, a

Rhaglen Mhyst Rhanbarthol

Mae'r gefnogaeth wleidyddol i Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghaerffili yn parhau'n gryf. Rwy'n aelod o Dîm Rheoli Corfforaethol y Cyngor sy'n cyfarfod yn wythnosol i ystyried penderfyniadau allweddol ar flaenoriaethau strategol a gweithredol, cyn i'r materion / penderfyniadau hyn fynd ymlaen i Graffu / Cyngor.

Mae'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol yn mynychu Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol gydag uwch reolwyr. Mae'r Pwyllgor Craffu, sy'n cynnwys 16 o aelodau etholedig, yn cyfarfod bob chwe wythnos i oruchwylio perfformiad y Gyfadran ac i ystyried unrhyw ddatblygiadau polisi / gwasanaeth cyn iddyn nhw gael eu hystyried gan y Cabinet.