Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Dogfen statudol yw hon o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, ac mae’n gynllun pedair blynedd sy'n esbonio mewn termau syml yr hyn y mae pob un o'r materion cydraddoldeb yn eu golygu ac o dan ba ddeddfwriaeth ehangach y mae gennym gyfrifoldebau fel cyngor. Mae hefyd yn ymdrin â'r hyn y mae termau fel "gwahaniaethu" neu "erledigaeth" yn eu golygu.

O 2016 dyma hefyd ble mae’r cyngor wedi mewnosod ei ymrwymiad i’r Safonau Iaith Gymraeg o dan Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 DRAFFT

Bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 y Cyngor yn mynd i’r Cyngor llawn i gael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu ar 18 Ebrill 2024.

Datblygwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn ar gyfer 2024-2028 i ddangos ymrwymiad y Cyngor i fodloni Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

Mae'n amlygu cysylltiadau â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau ar Safonau'r Gymraeg a materion Hawliau Dynol a sut mae'n ategu pedwar o'r saith nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru, sef Cymru iachach, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Mae hefyd yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i hybu cydraddoldeb a chynhwysiant i bob grŵp gwarchodedig.   

  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 (Fersiwn Hygyrch HTML) - Sylwch, bydd fersiwn hygyrch o'r ddogfen hon ar gael cyn gynted â phosibl. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi
  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 (PDF)

Gellir gweld yr holl ddogfennaeth ategol sy’n ymwneud â chamau datblygu’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 trwy’r ddolen ganlynol: Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 - Amcanion a Chamau Gweithredu | Trafodaeth Caerffili (caerffili.gov.uk)

Cynllun Cydraddoldeb Strategol - Adroddiad Blynyddol

Cofnodir ein cynnydd bob blwyddyn yn Strategaeth Cydraddoldeb Strategol - Adroddiad Blynyddol.  Cymeradwyodd Cabinet y cyngor i gyhoeddi’r adroddiad ar gyfer 2022-2023 ar 6 Mawrth 2024.

Datganiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2023

O dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017, mae'n ofynnol i bob sefydliad a restrir yn Atodlen 2 i'r rheoliadau sy'n cyflogi dros 250 o weithwyr adrodd yn flynyddol ar eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Bydd angen i sefydliadau eraill yn y sectorau preifat a gwirfoddol gyda 250 neu fwy o weithwyr gydymffurfio â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017.

Datganiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2023

Cysylltwch â ni