Uchelgeisiau a Rennir 2019-2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo strategaeth uchelgeisiol i helpu i sicrhau bod pob person ifanc ar draws yr ardal yn cyflawni'r canlyniadau addysgol gorau posibl.

‘Uchelgeisiau a Rennir: cydweithio i gyflawni'r canlyniadau gorau i'n pobl ifanc’ (PDF)’ yn nodi sut y bydd y cyngor yn gweithio gydag ysgolion a'r Gwasanaeth Cyflawni Addysg i gyflwyno gweledigaeth glir ar gyfer gwella cyrhaeddiad a chyflawniad.

Mae rhai o'r blaenoriaethau allweddol yn y strategaeth yn cynnwys: -

  • Gwella canlyniadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 4 a 5
  • Gwella perfformiad bechgyn a disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim
  • Adeiladu ar y cynnydd yn y presenoldeb diweddar
  • Lleihau nifer y gwaharddiadau ar draws ysgolion uwchradd
  • Canolbwyntio ar wella safonau llythrennedd, yn enwedig ym mlynyddoedd 7, 8 a 9
  • Gwella ansawdd yr addysgu a'r dysgu