Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Efallai eich bod wedi clywed am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), ond beth mae’n ei olygu?
Yn gryno, mae’n ymwneud â gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru.
O ganlyniad i’r Ddeddf, yn y dyfodol bydd yn ofynnol i gyfanswm o 44 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, feddwl mwy am y hir dymor, gweithio’n well gyda phobl leol a chymunedau a chyda’i gilydd, edrych i atal problemau a mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o weithredu.
Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i greu Cymru rydym i gyd am fyw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu animeiddiad byr, sy’n egluro beth fydd effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):
Y saith nod er llesiant
I wneud yn siŵr bod pob un o’r 44 corff cyhoeddus yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn pennu saith o nodau er llesiant:
Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’, sy’n dweud wrth y 44 o sefydliadau gwahanol sut i fynd ati i gyflawni eu dyletswydd o dan y Ddeddf. Mae gwneud rhywbeth ‘yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy’ yn golygu bod yn rhaid i’r corff ymddwyn mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu bodloni heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Mae angen i gyrff cyhoeddus hefyd wneud yn siŵr wrth wneud penderfyniadau, eu bod yn cymryd i ystyriaeth yr effaith y gallent eu gael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.
Pum ffordd o weithio
Mae pum peth y mae angen i gyrff cyhoeddus eu hystyried er mwyn dangos eu bod wedi rhoi ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ ar waith.
.aspx?width=600&height=114)
Tymor Hir - Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu hefyd i gwrdd ag anghenion hir dymor.
Atal - Sut y gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
Integreiddio - Ystyried sut y gall amcanion llesiant corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar ei amcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
Cydweithio - Gweithredu mewn cydweithrediad ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff ei hun) a allai helpu’r corff i gyflawni ei amcanion lles.
Cynnwys - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau lles, a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu.
Pa gyrff cyhoeddus sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf?
- Gweinidogion Llywodraeth Cymru
- Awdurdodau Lleol
- Byrddau Iechyd Lleol
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Awdurdodau Tân ac Achub
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Ble alla i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)?
Mae crynodeb o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar gael yma mewn llyfryn defnyddiol o’r enw ‘Yr Hanfodion’ (PDF)
Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (PDF)