#TîmCaerffili - Yn Well Gyda'n Gilydd

Mae bwrdeistref sirol Caerffili ar daith i drawsnewid. Mae angen i ni drawsnewid ein ffordd o weithio er mwyn ymateb i anghenion a blaenoriaethau cyfnewidiol ein cymuned, ac i fodloni’r heriau ariannol sylweddol sy’n ein hwynebu.

Cafodd strategaeth fawr newydd o’r enw '#TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd' ei chymeradwyo gan gabinet y cyngor yn gynt yn y mis, ac mae’n nodi’r ffordd y byddwn yn cyflawni’r newidiadau hyn dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.  

Dywedodd Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Dave Poole, “Rydym yn darparu dros 800 o wasanaethau allweddol i bob rhan o’r gymuned, o’r crud i’r bedd, ond mae’r pwysau sy’n ein hwynebu yn golygu bod angen i ni wneud pethau’n wahanol er mwyn addasu a ffynnu.”

“Mae’r her sydd o’n blaenau yn un sylweddol, ond mae’r cyfleoedd ar gyfer addasu ac ail-lunio’r cyngor - a’r fwrdeistref sirol yn ei chyfanrwydd - hyd yn oed yn fwy. Rhaid i’n taith drawsnewid ddigwydd ar y cyflymder a’r raddfa gywir, a’r egwyddor graidd sy’n sail i bopeth a wnawn yw ‘Calon Gymdeithasol a Phen Masnachol’.

“Rhaid i ni fod yn feiddgar ac yn ddewr. Rhaid i ni allu rhagweld cyfleoedd ar gyfer y dyfodol a bod yn barod i fanteisio arnynt yn llawn er lles ein preswylwyr,” ychwanegodd Christina Harrhy y Prif Weithredwr Dros Dro.

Mae’r cyngor yn brandio’r rhaglen drawsnewid uchelgeisiol hon fel '#TîmCaerffili – Yn Well Gyda’n Gilydd." Mae hyn yn adlewyrchu’r ethos tîm rydym yn ei ddatblygu o fewn y sefydliad, yn ogystal â chyfleu ein hymdrechion i weithio gyda phreswylwyr, busnesau, asiantaethau partner a rhanddeiliaid allweddol eraill i wneud gwahaniaeth.