Strategaeth Gwasaneth Cwsmeriaid 2016-2020

Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’n datblygu’r ffordd y darperir gwasanaethau cwsmeriaid i breswylwyr a busnesau ledled y fwrdeistref sirol, i ddefnyddwyr gwasanaethau’r cyngor, i ymwelwyr â’r fwrdeistref sirol ac i unrhyw un y mae’n rhaid iddo gynnal busnes gyda’r cyngor. Mae’r strategaeth yn berthnasol i holl wasanaethau’r Cyngor o 2016 i 2020.

Bydd yn dangos sut y byddwn yn dal i sicrhau profiad o ansawdd da i’n cwsmeriaid ac ar yr un pryd yn ychwanegu gwerth i’n cwsmeriaid a chyflawni mwy o werth am arian.

Bydd y strategaeth yn cael ei chefnogi gan Gynllun Cyflawni a gaiff ei fonitro gan y Grŵp Strategaeth TG Corfforaethol a fydd hefyd yn gyfrifol am gymeradwyo a monitro prosiectau a fydd yn deillio o’r strategaeth a sicrhau y bydd y strategaeth yn aros yn berthnasol.

Prif ganlyniadau strategol y strategaeth yw:

  • Sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad cadarnhaol cyson ar draws pob sianel mynediad.
  • Cynnal ystod o sianelau cyswllt ar gyfer pob gwasanaeth er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid sydd â nodweddion gwarchodedig a/neu ofynion ieithyddol penodol neu sy’n fregus neu o dan anfantais, yn gallu defnyddio gwasanaethau mewn ffordd sy’n briodol iddyn nhw.
  • Symud cwsmeriaid i’r dull mwyaf priodol o gysylltu ar gyfer eu hymholiad er mwyn creu arbedion effeithlonrwydd ac arbedion ariannol.
  • Lleihau cost pob trafodyn, gan gynnwys cost y broses o’r dechrau i’r diwedd.
  • Sicrhau bod pob cyswllt yn ychwanegu gwerth i’r cwsmer.
  • Lleihau nifer y cysylltiadau gan gwsmeriaid trwy sicrhau nad yw’r ffordd y darparwn wasanaethau’n arwain at gysylltiadau diangen.

Darllenwch a / neu lawrlwythwch ein Strategaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid 2016-2020 (PDF)