Cynigion Cyllideb 23/24

Y Cyng. Sean Morgan – Arweinydd CBS Caerffili

Sean Morgan

Mae pwysau ariannol sylweddol yn wynebu aelwydydd ar draws ein Bwrdeistref Sirol, yn union fel y maen nhw ledled y wlad gyfan. Rydyn ni wedi dioddef deng mlynedd o galedi wedi’i orfodi gan y llywodraeth gyda thoriadau cyllidebol, rhewi cyflogau a symud y baich i’r rhai a all ei fforddio leiaf, wedi’i ddilyn gan Brexit, pandemig byd-eang ac yn awr argyfwng costau byw wedi’i yrru gan chwyddiant, i gyd yn cael eu rheoli gan lywodraeth anhrefnus sy'n dangos mwy fyth o lymder.

Mae hyn yn peri pryder mawr i bawb ac rydyn ni wedi ymateb gyda chyfres o fesurau gyda'r nod o helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd iawn i'w rheoli. (Os ydych chi’n cael trafferth, ffoniwch Gofalu am Gaerffili ar 01443 811490 neu e-bostio GofaluamGaerffili@caerffili.gov.uk )

Nid yw awdurdodau lleol yn wahanol, ac mae’r Cyngor hwn hefyd yn teimlo effaith yr hinsawdd ariannol bresennol.

Mae Cyngor Caerffili yn wynebu bwlch o £35 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, o’i gymharu â’n blwyddyn waethaf o ran caledi lle bu’n rhaid i ni ddod o hyd i £14 miliwn. Mae’n anodd gwerthfawrogi maint y swm hwn yn llawn, ond fel enghraifft, pe byddwn ni’n cau ein holl ganolfannau hamdden a llyfrgelloedd, yn rhoi’r gorau i gasglu gwastraff ac yn peidio â gwneud unrhyw waith cynnal a chadw ar ein priffyrdd, ni fyddwn ni’n bodloni’r diffyg hwn o hyd. Dydw i ddim yn awgrymu am eiliad ein bod ni’ mynd i wneud hyn, ond mae’n helpu i ddangos maint yr her sydd o’n blaenau ni.

Diolch byth, er bod y pwysau hwn yn sylweddol, rydyn ni mewn sefyllfa gref i wynebu'r heriau oherwydd rheolaeth ariannol gadarn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae gan Gaerffili gronfeydd wrth gefn iach, y mwyafrif ohonyn nhw wedi'u neilltuo a'u clustnodi ar gyfer cynlluniau penodol. Fodd bynnag, mae modd defnyddio elfen o’r arian fel arian wrth gefn ar gyfer ‘diwrnod glawog’ ac rwy’n meddwl y gallwn ni i gyd gytuno bod y diwrnod glawog wedi cyrraedd. Mewn gwirionedd, mae'n fwy o arllwysiad trwm.

Rydyn ni wedi anwybyddu lleisiau anghyfrifol y gwrthbleidiau yn galw am ddefnyddio ein cronfeydd wrth gefn ar gyfer myrdd o achosion poblyddwyr, sy’n golygu bod gennym ni bellach yr arian ar gael ar gyfer adeg pan fo’u hangen fwyaf arnon ni.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ystyried amrywiaeth o opsiynau a syniadau a rhan allweddol o’r broses hon yw gwrando ar eich barn chi, er mwyn i chi allu ein helpu ni i lunio ein gwasanaethau a blaenoriaethu gwariant. Mae gennym ni sgwrs barhaus gyda thrigolion dros y blynyddoedd diweddar a bydd hyn yn parhau dros yr wythnosau nesaf wrth i ni lansio arolwg newydd i gasglu eich adborth chi am ein cynlluniau.

Mae’n amlwg bod angen arweinyddiaeth bwrpasol ar Dîm Caerffili ar adeg mor dyngedfennol ac mae angen ymdrech ar y cyd gan y Cyngor a’r gymuned i lywio ein ffordd drwy’r misoedd anodd sydd i ddod.

Gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn gwneud popeth posibl i amddiffyn y gwasanaethau niferus sy’n cynorthwyo ein cymunedau drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Cofiwch gadw llygad am yr arolwg sydd i ddod a dweud eich dweud i helpu i lunio dyfodol y Cyngor a'n gwasanaethau.

Y Cyng. Sean Morgan – Arweinydd CBS Caerffili