Mwstro Tîm Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu heriau economaidd digynsail.
Fel pob awdurdod lleol ar draws y DU, nid yw’r dirwedd economaidd erioed wedi bod yn fwy cymhleth. Dros y 2 flynedd ariannol nesaf, bydd angen i'r Cyngor arbed £45 miliwn.
I roi hyn mewn persbectif, hyd yn oed pe bai'r Cyngor yn rhoi'r gorau i gynnal casgliadau gwastraff ac ailgylchu; atal holl waith atgyweirio priffyrdd; cau pob canolfan hamdden; cael gwared ar yr holl wasanaethau arlwyo a glanhau strydoedd; a chael gwared ar yr holl ddarpariaeth ar gyfer parciau gwledig ledled y Fwrdeistref Sirol – bydden ni'n arbed £40 miliwn (sydd dal yn sylweddol is na’n targed 2 blynedd).
Arweinydd y Cyngor - Cllr Sean Morgan
Damcaniaeth yn unig yw honno, ond mae'n dangos maint yr her sy'n ein hwynebu.
Byddai methu â chyflawni hyn yn golygu bod angen i'r Cyngor roi hysbysiad Adran 114 i Lywodraeth Cymru (fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn awdurdodau lleol ledled Lloegr).
Mae hon yn her frawychus a difrifol rydyn ni fel awdurdod lleol yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae staff y Cyngor wedi bod yn gweithio'n ddiflino i groesawu'r her hon ac i archwilio nid yn unig sut mae modd gwneud arbedion, ond hefyd sut mae modd ad-drefnu ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein trigolion yn well.
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid a gwella ein gwasanaethau, fel rhan o raglen gyffrous o newid cadarnhaol sydd wedi cyflymu ar draws y sefydliad cyfan yn y misoedd diwethaf.
Ar yr adeg dyngedfennol hon i’n Bwrdeistref Sirol, mae’n hollbwysig eich bod chi – ein trigolion – wrth galon y penderfyniadau hyn.
Bydd yr adran hon o'r dudalen we yn rhoi diweddariadau byw ar y prosiectau sy'n cael eu hystyried, yr ymgynghoriadau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, a'r canlyniadau y bydd eich barn yn helpu i'w llunio.
Wrth i'r rhaglen newid hon ddatblygu, bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei llenwi.
DWEUD EICH DWEUD