FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Blaenraglen Waith Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol

Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol, Y Cynghorydd Donna Cushing.

'Eleni (2022/23) bydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol yn cymryd rhan yng nghraffu’r canlynol:

  • Craffu cyn gwneud penderfyniad - ymgynghoriad cyn i benderfyniadau gael eu gwneud gan y Cabinet
  • Ymgynghori ar ddatblygu gwasanaeth a pholisi
  • Monitro cyllideb
  • Rheoli Perfformiad – Amcanion Gwella, Hunan-werthusiad y Cyngor a Chynlluniau Gwella Gwasanaeth

Yn ogystal â hynny bydd y pwyllgor craffu yn derbyn copïau o unrhyw adroddiadau perthnasol gan yr Ombwdsmon ac adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru. 

Hefyd bydd y flaenraglen waith yn cynnwys ceisiadau sydd wedi eu derbyn gan Gynghorwyr a’r cyhoedd ac unrhyw Alwadau am Gamau Gweithredu gan Gynghorwyr. 

Bydd y Flaenraglen Waith yn cynnwys unrhyw ‘Grwpiau Tasg a Gorffen’ sydd wedi’u creu gan y pwyllgor craffu, i gynnal unrhyw ymchwiliad manwl i destun penodol neu faes gwasanaeth.

Gobeithiaf y bydd y Flaenraglen Waith hon yn addysgiadol a byddwn yn croesawu unrhyw adborth’.

Y Flaenraglen Waith Gyfredol

Mae’r flaenraglen waith ganlynol yn amlinellu’r rhaglen waith gyfredol a bydd yn cael ei diweddaru yn chwarterol yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft o Flaenraglen Waith y chwarter nesaf.

Blaenraglen Waith (PDF)

Cyfarfodydd y pwyllgor craffu

Mae holl bapurau cyfarfod y pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi 3 diwrnod gwaith clir cyn dyddiad y cyfarfod, ac maen nhw ar gael drwy glicio’r ddolen ganlynol:

Gweld cyfarfodydd y cyngor yn y dyfodol

Cysylltwch â ni