Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili

Mae gan Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili gynrychiolaeth o lawer o sefydliadau sy’n ystyried amrywiaeth o fesurau i gynorthwyo ein cymuned lluoedd arfog leol ni (gan gynnwys cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, personél y Lluoedd Arfog, aelodau wrth gefn a’u teuluoedd) o fewn ein cymunedau lleol ni ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae aelodau Sector Gwirfoddol Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnwys:

  • Y Lleng Brydeinig Frenhinol
  • Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd (SSAFA)
  • Change Step
  • Alabaré
  • Canolfan Cyngor ar Bopeth
  • First Choice Housing Association
  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
  • Sefydliad St Loye
  • Hire a Hero
  • Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol
  • Gwasanaeth Lles Meddygol Amddiffyn (DMWS)
  • Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin  

Mae aelodau eraill Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili yn cynnwys:

  • Ysbyty Maes 203 (Cymreig)
  • Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol
  • Catrawd 104
  • Llu Awyr Ategol Brenhinol
  • Veterans UK (sef yr SPVA gynt)
  • Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA)
  • GIG Cymru i Gyn-filwyr
  • Gwasanaeth Prawf
  • Cwmni Adsefydlu Cymunedol
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Fforwm Busnes Caerffili
  • Ffederasiwn Busnesau Bach 
  • Heddlu Gwent
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB)
  • a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sydd i gyd yn cydweithio i helpu a chynghori ein cymuned y Lluoedd Arfog.

Gydag arbenigedd lleol o'r fath ar gael gan Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili, mae'n ddigon posibl y byddai'n fanteisiol i unrhyw grŵp neu sefydliad ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy'n dymuno cyflwyno cais am arian i Gronfa'r Cyfamod drafod eu cais gyda Fforwm Lluoedd Arfog Caerffili.  Mae’n ddigon posib y bydd hyn yn cryfhau’r cais, wrth iddo fynd ymlaen i’r Bwrdd Gweinyddol Datganoledig Rhanbarthol.

Cysylltwch â:   

Lisa Rawlings
Swyddog Cyswllt Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhanbarthol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Uned Unit
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG

Ffôn: 01443 864447 / 07717 467341
E-bost: LluoeddArfog@caerffili.gov.uk

Bydd y penderfyniad terfynol ar addasrwydd ceisiadau yn cael ei wneud gan Fwrdd Cyfamod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn cyngor ac adborth gan y Byrddau Gweinyddol Datganoledig Rhanbarthol.

Papurau cyfarfodydd