Cyfamod y Lluoedd Arfog

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl sy’n sicrhau y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas y maen nhw'n eu gwasanaethu gyda’u bywydau. 

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gefnogi ar lefel leol gan gytundeb partneriaeth rhwng asiantaethau statudol, milwrol a gwirfoddol sy’n cydweithio i anrhydeddu a gweithredu Cyfamod cenedlaethol y Lluoedd Arfog. 

Mae pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Dyletswydd Cyfamod Newydd y Lluoedd Arfog: Beth mae'n ei olygu i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Cafodd Cyfamod y Lluoedd Arfog ei ymgorffori yn y gyfraith yn Rhagfyr 2021. Mae’r ddeddfwriaeth yn gosod dyletswydd newydd ar gyrff cyhoeddus perthnasol, wrth arfer agweddau penodol o'u swyddogaethau cyhoeddus ym meysydd tai, gofal iechyd ac addysg i roi sylw dyledus i dair egwyddor Cyfamod y Lluoedd Arfog:

Rhwymedigaethau unigryw’r Lluoedd Arfog a’r aberthau maen nhw wedi’u gwneud;

  • Yr egwyddor ei bod yn ddymunol cael gwared ar anfanteision sy’n codi i bobl y Lluoedd Arfog o aelodaeth, neu gynaelodaeth, o’r Lluoedd Arfog; a
  • yr egwyddor y gellir cyfiawnhau darpariaeth arbennig ar gyfer Lluoedd Arfog oherwydd effaith aelodaeth, neu gynaelodaeth, o'r Lluoedd Arfog ar bobl o'r fath.

Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ddangos eu bod nhw wedi ystyried egwyddorion y Cyfamod wrth wneud penderfyniadau yn y meysydd allweddol hyn.

Beth yw Dyletswydd newydd Cyfamod y Lluoedd Arfog newydd?

Mae Dyletswydd newydd y Cyfamod yn golygu y bydd rhaid i awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau GIG a chyrff lleol eraill ledled y Deyrnas Unedig fynd ati i ystyried egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog wrth ddarparu gwasanaethau gofal iechyd, tai ac addysg allweddol.

Pwy mae'r Ddyletswydd newydd yn ceisio ei helpu?

Mae’r Ddyletswydd yma i helpu pobl fel chi yng nghymuned y Lluoedd Arfog, sy’n cynnwys aelodau a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog (gan gynnwys y rhai rheolaidd ac wrth gefn) ac aelodau o’u teuluoedd.

Sut mae'r Ddyletswydd yn gweithio?

Bydd Dyletswydd newydd y Cyfamod yn codi ymwybyddiaeth o sut mae bywyd yn y Lluoedd Arfog yn gallu effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog a sut mae'n gallu achosi anfantais pan fyddwch chi neu'ch teuluoedd chi yn defnyddio'r gwasanaethau hyn.  Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i gyrff cyhoeddus fynd ati i ystyried cymuned y Lluoedd Arfog ac effaith y gwasanaeth wrth wneud penderfyniadau a datblygu polisïau a rhaglenni newydd. Ni fydd hyn yn golygu y byddwch chi neu'ch teuluoedd chi yn cael eich gosod ar flaen y ciw.  Yn hytrach, bydd yn golygu y bydd eich amgylchiadau chi'n cael eu hystyried yn decach.

Pa sefydliadau sy'n gorfod cydymffurfio â'r Ddyletswydd newydd?

Mae'r Ddyletswydd newydd yn berthnasol i sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau addysg, gofal iechyd a thai. Er enghraifft, ym maes gofal iechyd, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Lloegr) sy'n delio â pholisïau rhestrau aros gofal iechyd; ym maes tai, awdurdodau lleol sy'n ymdrin â dyrannu tai cymdeithasol; ac ym myd addysg, cyrff fel ysgolion ac academïau sy’n ymdrin â meini prawf derbyn ysgolion.

Mae rhestr lawn o'r sefydliadau a'r swyddogaethau sy'n cael eu cwmpasu gan y Ddyletswydd newydd ar gael yn Atodiad 1 y canllawiau statudol.

Beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog?

Gan gydnabod eu rhwymedigaethau a’u haberthau unigryw, mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ynghyd â’u teuluoedd, gael eu trin yn deg. Mae'n addewid na ddylen nhw fod dan anfantais oherwydd eu gwasanaeth. Mae hefyd yn caniatáu darpariaeth arbennig, pan mae hynny'n cael ei gyfiawnhau, ar gyfer y rhai sydd wedi aberthu fwyaf megis y rhai sydd wedi'u hanafu a'r rhai sydd wedi cael profedigaeth.

Beth allwch chi ei wneud os credwch chi fod sefydliad wedi methu ag ystyried Dyletswydd y Cyfamod?

Dylech chi godi unrhyw bryderon gyda'r sefydliad dan sylw i ddechrau a dilyn eu proses gwyno safonol. Os na fydd y gŵyn yn cael ei datrys, gallwch chi gyfeirio at yr Ombwdsmon perthnasol. Gallwch chi ddod o hyd i gyngor pellach yn Atodiad 4 y canllawiau statudol.

Ble gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cynhyrchu canllawiau statudol i helpu sefydliadau sy'n cael eu heffeithio i ddeall a chydymffurfio â Dyletswydd y Cyfamod.  Mae hwn yn egluro Cyfamod y Lluoedd Arfog, ac yn cynnwys enghreifftiau o ble mae anfantais yn gallu codi, enghreifftiau o arfer da a gwybodaeth ddefnyddiol arall.

Cyfamod y Lluoedd Arfog - Cwrs cyflwyno

Yn y cwrs cyflwyno hwn, byddwch chi'n dysgu am y Lluoedd Arfog ac yn darganfod beth yw Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Dewiswch bwnc Nawr