Uno Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon

Teitl

Cyfuno Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon i greu darpariaeth Ysgol Gynradd newydd ar safle presennol yr ysgol fabanod ar gyfer y rhai 3-11 oed ac uned gofal plant annibynnol.

Dyddiad agor

01/03/2023

Dyddiad cau

31/03/2023

Trosolwg

Mae'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, gynt) yn rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol fawr, hirdymor. Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a'i nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru. Bydd yr uned gofal plant yn cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r rhaglen hon mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwneud cais cynllunio ar gyfer cyfuno ysgolion Llancaeach a Llanfabon i greu darpariaeth Ysgol Gynradd newydd ar safle presennol ysgol Llanfabon. Bydd gan y cyfleuster newydd le ar gyfer 275 o ddisgyblion cynradd a 40 o ddisgyblion meithrin, ac yn cynnwys cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel, a bydd e'n galluogi'r gymuned i ddefnyddio'r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.

Mae'r gofyniad i ymgynghori cyn cyflwyno cais yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad ‘mawr’ (llawn neu amlinellol fel y’i diffinnir yn erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012). Mae'r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a'u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio.

Pam rydym yn ymgynghori?

Ymgynghoriad statudol i gael barn y gymuned ar ddatblygiad ysgol arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Mae'n ofyniad statudol i sicrhau bod y cais drafft ar gael i'w adolygu a rhoi sylwadau arno fe cyn ei gyflwyno'n ffurfiol ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio.

Dogfennau

Mae'r dolenni isod yn rhoi mynediad at y dogfennau cais cynllunio drafft ar gyfer sylwadau cyn eu cyflwyno'n ffurfiol.

Dogfennau drafft:

Cynlluniau drafft:

Penderfynwyd cyhoeddi'r dogfennau * yn Saesneg yn unig gan eu bod yn ddogfennau technegol ac nid ystyriwyd hi'n rhesymol nac yn gymesur eu cyfieithu yn unol â Safonau'r Gymraeg. Dogfennau technegol ydyn nhw ac maen nhw at ddefnydd dylunwyr ac adeiladwyr yn unig.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os hoffech chi wneud sylw ar y cais, anfonwch e-bost i YmatebLlancaeachLlanfabon@caerffili.gov.uk

Fel arall, gallwch chi ysgrifennu at:

Cyfuno Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon, Ymgynghoriad cyn cyflwyno cais, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gwasanaethau Eiddo, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

Ni fyddwch chi'n cael ymateb uniongyrchol i'ch sylwadau chi, ond, fel gofyniad statudol, bydd yr holl sylwadau yn ffurfio rhan o'r adroddiad ymgynghori cyn cyflwyno cais, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio ffurfiol.

Ymholiadau

Anfonwch e-bost i YmatebLlancaeachLlanfabon@caerffili.gov.uk

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

N/A

Canlyniadau disgwyliedig

Adroddiad ymgynghori ar y cais, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio ffurfiol.