Ymgynghoriad ar Gamerâu Gofod Agored Cyhoeddus

Eleni gwelir 20fed pen-blwydd o gyflwyno camerâu TCC man agored cyhoeddus a weithredir gan y cyngor ar draws y fwrdeistref sirol.

Dechreuodd y cynllun yn ôl ym 1998 gydag 11 o gamerâu yng Nghaerffili ac mae wedi ehangu dros yr 20 mlynedd diwethaf at ei weithrediad presennol o 150+ o gamerâu sy’n cwmpasu trefi a phentrefi ar draws yr ardal gyfan.

Yn ogystal, mae dros 500 o gamerâu yn cwmpasu ein hysgolion, ein storfeydd ac adeiladau eraill sy’n eiddo i’r cyngor. Mae’r tîm TCC yn cynnwys 16 aelod o staff sy’n cadw golwg barhaol 24/7 dros ein canol trefi a’n cymdogaethau.

“Mae’r ‘llygaid yn yr awyr’ hyn yn helpu i gadw golwg agos dros ein cymunedau a chwarae rhan sylweddol wrth helpu i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol,” meddai’r Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd. 

Yn ôl ym 1998 nid oedd y camerâu mor uwch-dechnolegol fel y maent heddiw a defnyddiwyd tapiau VHS i gipio lluniau - gyda mwy na 1000 o dapiau’n cael eu defnyddio mewn un mis drwy 16 recordiad fideo.  Heddiw rydym yn defnyddio technoleg ddigidol gyda recordwyr gyriant caled i storio’r ffilm.

Ers digidoli yn 2007, rydym wedi monitro dros 40,000 o ddigwyddiadau, gan ddarparu 11,000 o DVDau i Heddlu Gwent ac yn gweithredu’r camerâu dros 3.5 miliwn o weithiau.

Mae’r Cyngor wedi cael ei achredu gan yr NSI ar gyfer Rheoli a Gweithredu Ystafell Reoli CCTV ers 2004 yn cynnal ei Wobr Arian ac yn 2016 daeth yn un o’r awdurdodau cyntaf yng Nghymru i gyflawni’r Dystysgrif Cydymffurfiaeth Llawn i’r Côd Ymarfer Comisiynwyr Camerâu Gwyliadwriaeth.

Mae gan y cyngor ddiddordeb yn eich barn ar TCC man agored cyhoeddus a byddai’n gwerthfawrogi pe gallech lenwi holiadur.

Am fwy o wybodaeth ewch i'r adran TCC.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd ymgynghoriadau ac arolygon (PDF)