Ymgynghoriad Cyhoeddus ar wneud Gorch ymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ymwneud â Rheoli Cŵn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd pobl leol i ddweud eu dweud ar ein cynlluniau i ymestyn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud â rheoli cŵn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn 2017 cymeradwyodd a mabwysiadodd y Cabinet y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2017 am gyfnod o dair blynedd. 

Mae'r Gorchymyn yn cynnwys y cyfyngiadau canlynol:

  • Eithrio cŵn o bob man chwarae amlddefnydd ac ardal chwarae caeedig i blant 
  • Mynnu bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn mewn gerddi coffa caeedig
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn cael gwared ar faw ci mewn mannau cyhoeddus 
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn cario cynhwysydd priodol ar gyfer ymdrin â'r gwastraff y mae eu cŵn yn cynhyrchu (hynny yw, bod modd iddynt godi baw eu cŵn ar bob adeg)
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn rhoi eu cŵn ar dennyn pan fydd swyddog awdurdodedig yn eu cyfarwyddo i'w gwneud ar unrhyw dir cyhoeddus lle ystyrir nad yw'r ci o dan reolaeth neu'n achosi niwed neu ofid er mwyn atal niwsans.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ar 29 Gorffennaf 2020 am gyfnod o 6 wythnos. I gymryd rhan, cwblhewch ein harolwg.

  • Mae’r arolwg ar y cynnig i ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ymwneud â rheoli cŵn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili bellach wedi dod i ben. Bydd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad maes o law.

Bydd yr holl sylwadau ac adborth o'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried cyn i'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus cael ei ymestyn.  Mae ragor o wybodaeth a manylion am y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gael ar ein hadran Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Cŵn yn baeddu a rheoli cŵn mewn mannau cyhoeddus