Ymgynghoriad Cyhoeddus ar wneud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus  o ran rheoli cŵn 2021

Teitl

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar wneud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus o ran rheoli cŵn 

Dyddiad agor

Dydd Gwener 11  Mehefin 2021

Dyddiad cau

Dydd Gwener 20 Awst 2021

Trosolwg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd pobl leol i ddweud eu dweud ar y cynnig i ddiwygio’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili I gynnwys gwahardd cŵn o gaeau/meysydd chwaraeon.

Pam rydym yn ymgynghori?

Yn 2017 cymeradwyodd a mabwysiadodd y Cabinet y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2017 am gyfnod o dair blynedd. Yn dilyn hynny, cafodd hyn ei estyn am 1 flwyddyn arall ym mis Hydref 2020.

Mae’r Gorchymyn arfaethedig newydd yn cynnwys y cyfyngiadau canlynol:

  • Eithrio cŵn o bob man chwarae amlddefnydd ac ardal chwarae caeedig i blant
  • Mynnu bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn mewn gerddi coffa caeedig
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn cael gwared ar faw ci mewn mannau cyhoeddus
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn cario cynhwysydd priodol ar gyfer ymdrin â'r gwastraff y mae eu cŵn yn cynhyrchu (hynny yw, bod modd iddynt godi baw eu cŵn ar bob adeg)
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn rhoi eu cŵn ar dennyn pan fydd swyddog awdurdodedig yn eu cyfarwyddo i'w gwneud ar unrhyw dir cyhoeddus lle ystyrir nad yw'r ci o dan reolaeth neu'n achosi niwed neu ofid er mwyn atal niwsans.
  • Yn ychwanegol at yr uchod, mae'r Cyngor yn cynnig ei wneud yn drosedd os yw person â chyfrifoldeb am gi yn mynd â'r ci i unrhyw un o’r caeau/meysydd chwarae sydd wedi’u nodi yn atodiad y gorchymyn, neu'n caniatáu i'r ci gael mynediad neu aros yno.

Dogfennau 

Mapiau o gae chwaraeon y mae'r cynnig yn effeithio arnynt (PDF)

Ffyrdd o fynegi eich barn

Arolwg ar-lein (holiadur snap), arolwg post ar gael ar gais.
https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=162211111605

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau 

27 Awst 2021

Canlyniadau disgwyliedig

Cefnogaeth i'r cynnig er mwyn hyrwyddo mynediad i bob ardal gyhoeddus ddiogel ar gyfer chwarae ac ymarfer corff ar gyfer blant, ieuenctid ac oedolion yn y fwrdeistref.

.