Fferm solar Pen-yr-heol

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r preswylwyr sydd wedi ymgysylltu â ni hyd yn hyn ar y cynnig; mae eich barn a’ch adborth wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i lunio’r cynnig amlinellol. Rydyn ni bellach yn symud i gam nesaf y datblygiad arfaethedig, sef ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

Fel rhan o hyn, byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau galw heibio ymgynghori cyhoeddus wyneb yn wyneb, yn ogystal â sesiynau rhithwir, lle cewch eich gwahodd i ddysgu rhagor am beth yw ein cynlluniau amlinellol ar gyfer cynnig datblygu’r fferm solar, ac yn hollbwysig, i rannu eich barn am y cynlluniau hyn.

Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

  • Canolfan Gymunedol Pen-yr-heol ar 17 Tachwedd 2022, 9am tan 11am
  • Canolfan Gymunedol Pwll-y-pant ar 18 Tachwedd 2022, 2pm tan 4pm
  • Ysgol Gynradd Parc Hendredenny ar 21 Tachwedd 2022, 5pm tan 7pm

Mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd yn ystod yr amseroedd a ddangosir uchod.

Bydd y sesiynau rhithwir yn cael eu cynnal:

  • 17 Tachwedd 2022, 5pm tan 6pm
  • 18 Tachwedd 2022, 10am tan 11am
  • 21 Tachwedd 2022, 2pm tan 3pm

Anfonwch e-bost at TimCaeffili@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 811484 i gadw lle yn y sesiwn rithwir. Cewch chi hefyd weld yr wybodaeth ar-lein a rhoi sylwadau ar y wefan isod. Bydd y cod QR isod hefyd yn mynd â chi i’r wefan.

Gallwch hefyd weld yr wybodaeth ar-lein a rhoi sylwadau ar yr ymgynghoriad, ar y wefan isod.

Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd yr isod yn ddefnyddiol i gynnig rhagor o wybodaeth am y fferm solar arfaethedig:

Ble fyddech chi’n bwriadu cynnal y fferm ynni haul hon?

Y cynnig fyddai lleoli’r fferm solar mewn rhan o’r fferm ar Fferm Cwm Ifor, Pen-yr-heol.

Bydd yr union safle, maint a lleoliad yn cael ei drafod ymhellach gyda’r gymuned fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus, ac mae ymgynghorwyr perthnasol hefyd wedi cael mewnbwn fel rhan o gam nesaf y prosiect. Mae rhai ardaloedd wedi cael eu gwahardd ac eraill wedi eu hychwanegu fel rhan o ymgynghori cynnar gyda thrigolion. Isod ceir map o ble bydd y paneli’n cael eu lleoli er mwyn rhoi syniad o sut y gallai edrych, a map yn dangos y tir y bydd wedi’i leoli arno.

Map
Aerial

A yw’r Cyngor eisoes wedi penderfynu adeiladu’r fferm solar?

Na, rydyn ni wedi penderfynu ymchwilio i’r cyfle hwn i ddeall a yw’n gyflawnadwy ac yn ddymunol. Y cynnig y cytunodd Cabinet y Cyngor iddo oedd ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer datblygu fferm solar yn Fferm Cwm Ifor, Pen-yr-heol.

Dim ond ar ôl i ni gael yr wybodaeth hon ac wedi cynnal dadansoddiad trylwyr o’r opsiynau, y byddai achos busnes llawn a therfynol yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor i’w ystyried yn 2023, os yw’n ymarferol.

Pam fod y Cyngor yn edrych ar y cynllun hwn?

Datganodd y Cyngor Argyfwng Hinsawdd ar y 4ydd Mehefin 2019 ac mae wedi ymrwymo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Pwy sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid datblygu’r fferm solar ai peidio?

Ar ôl i’r ymchwiliad a’r dadansoddiad o’r opsiynau ddod i ben, ac os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi caniatâd cynllunio, byddai’r Cyngor yn penderfynu ar yr opsiwn a ffefrir ar gyfer datblygu’r fferm solar ochr yn ochr â’r achos busnes llawn a therfynol yn 2023.

Pe bai’n mynd yn ei flaen, a fyddai’r fferm solar yno am byth?

Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd solar, gan gynnwys y cynnig hwn, ddisgwyliad oes o tua 35 mlynedd, mae rhai yn derbyn estyniadau cynllunio ar ddiwedd yr amserlen hon ac mae’r rhain yn opsiynau y byddwn ni’n eu hystyried fel rhan o ddatblygu’r achos busnes terfynol ac archwilio tueddiadau presennol y diwydiant mewn hyd oes paneli solar. Bydd angen rhagor o ynni adnewyddadwy ar Gymru os yw am ddod yn garbon niwtral.

Sut mae’r cynnig wedi newid o ganlyniad i’r gwaith ymgysylltu â’r gymuned cychwynnol?

Mynegodd rhai trigolion bryderon cychwynnol bod rhai adrannau a gafodd eu nodi yn wreiddiol yn y cynllun yn rhy agos at eiddo yn yr ardal. Gan ddefnyddio’r adborth hwn, cafodd yr adrannau hyn eu dileu gyda ffiniau newydd wedi’u gosod fel y dangosir uchod.

Drwy ymgysylltu â phreswylwyr, rydyn ni hefyd wedi addasu cynlluniau teithio a fydden ni ddim yn teithio drwy ystadau tai yn ystod amseroedd gollwng a chasglu plant o’r ysgol.

Pa fanteision sy’n debygol o fod gyda chynnig o’r fath?

Mae yna hefyd amrywiaeth o fanteision cymunedol posibl y gallai prosiect fel hwn eu cefnogi. Trwy ein trafodaethau gyda chi, hoffwn ni archwilio a nodi rhai opsiynau sy’n cael eu ffafrio pe bai’r cynnig am fferm solar yn mynd yn ei flaen.

Sut alla i gysylltu â chi?

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o’r sesiynau, yn y cyfamser, os hoffech chi gysylltu â ni drwy e-bostio: TimCaerffili@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 811484

Os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig neu os hoffech chi siarad â ni mewn iaith arall heblaw Saesneg, rhowch wybod i ni cyn y sesiynau gan ddefnyddio’r manylion a ddarparwyd.

.