Strategaeth Tai Gwag y Sector Preifat 2023-2028

Teitl

Strategaeth Tai Gwag y Sector Preifat 2023-2028

Dyddiad agor

07/12/2022

Dyddiad cau

18/01/2022

Trosolwg

Mae’r Strategaeth Tai Gwag y Sector Preifat 2023-2028 yn nodi cynlluniau’r Cyngor i fynd i’r afael â’r nifer uchel o gartrefi gwag. Mae hefyd yn nodi'r amrywiaeth o fentrau sydd ar gael i'r Cyngor i helpu perchnogion i ddod â defnydd yn ôl i’w cartrefi gwag. Mae’r strategaeth hon yn cyfeirio at gartrefi gwag yn y sector preifat yn unig ac nid yw’n ymestyn i gartrefi gwag o fewn stoc tai Caerffili ei hun neu’r rhai sy’n eiddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC).

Pam rydym yn ymgynghori?

Mae'r Cyngor yn ceisio barn ar gyflwyno Strategaeth Tai Gwag y Sector Preifat 2023-2028.

Bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn cael ei defnyddio gan y Cyngor fel rhan o waith datblygu'r Strategaeth Tai Gwag y Sector Preifat 2023-2028. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn ystod yr ymarfer ymgynghori yn cael ei defnyddio i asesu a yw'r Polisi'n diwallu anghenion a dyheadau trigolion Caerffili.

Dogfennau

Strategaeth Tai Gwag y Sector Preifat 2023-2028

Ffyrdd o fynegi eich barn

Mae modd i chi gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • Lawrlwytho ffurflen ymateb ac e-bostio taisectorpreifat@caerffili.gov.uk; neu
  • Gofyn am ffurflen ymateb, a'i hanfon at: Tai Sector Preifat, Blwch SP 128 Hengoed CF82 9BP

Ymholiadau

E-bostiwch: taisectorpreifat@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 811378

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

03/2023

Canlyniadau disgwyliedig

Ymarfer ymgynghori cyhoeddus wedi'i gwblhau o fewn yr amserlenni penodedig. Bydd yr wybodaeth sy’n cael ei derbyn yn cael ei defnyddio i gwblhau'r strategaeth a'r asesiad effaith integredig cyn ei chyflwyno i'r Cabinet.