Canolfan Dysgwyr Agored i Niwed Arfaethedig Pontllan-fraith

Teitl

Sefydlu Canolfan Dysgwyr Agored i Niwed (Uned Cyfeirio Disgyblion) ar hen safle Ysgol Gyfun Pontllan-fraith, NP12 2DA

Dyddiad agor

07/10/2022

Dyddiad cau

07/11/2022

Trosolwg

Mae Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol. Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a'i nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.

Fel rhan o'r rhaglen hon, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwneud cais cynllunio ar gyfer sefydlu Canolfan Dysgwyr Agored i Niwed (Uned Cyfeirio Disgyblion) ar hen safle Ysgol Gyfun Pontllan-fraith. Bydd rhwng 80 a 120 o leoedd yn y cyfleuster newydd i ddisgyblion a bydd yn cynnwys cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel, darpariaeth chwaraeon dan do ac awyr agored yn ogystal â mynediad at gymorth o'r radd flaenaf, a bydd yn galluogi'r gymuned i ddefnyddio'r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.

Mae’r gofyniad i ymgymryd â phroses cyn ymgynghori yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad ‘mawr’ (llawn neu amlinellol fel sydd wedi'i ddiffinio yn erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012). Mae'r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a'u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori.  

Pam rydym yn ymgynghori?

Ymgynghoriad statudol i gael barn y gymuned ar ddatblygiad ysgol arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Mae'n ofyniad statudol i sicrhau bod y cais drafft ar gael i'w adolygu a rhoi sylwadau arno cyn ei gyflwyno'n ffurfiol ar gyfer Caniatâd Cynllunio.

Dogfennau

Mae'r dolenni isod yn rhoi mynediad at ddogfennau drafft y Cais Cynllunio er mwyn cael sylwadau cyn eu cyflwyno'n ffurfiol.

Os na allwch gyrchu'r dogfennau yn electronig gallwch ofyn am gopïau o'r wybodaeth hon gan e-bostio: YmatebCanolfanDysgwyrAgorediNiwed@CAERFFILI.GOV.UK neu drwy ffonio 01495 235592.

Mae copi argraffedig o'r dogfennau ceisiadau cynllunio drafft hefyd ar gael i’w weld yn Llyfrgell Coed Duon, 192 Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1AJ yn ystod oriau agor arferol. Gofynnwch wrth y Dderbynfa am fynediad.

Cynlluniau Drafft

Penderfynwyd cyhoeddi'r dogfennau canlynol yn Saesneg yn unig gan eu bod yn ddogfennau technegol ac nid ystyriwyd hi'n rhesymol nac yn gymesur eu cyfieithu yn unol â Safonau'r Gymraeg.  Dogfennau technegol ydyn nhw ac maen nhw at ddefnydd dylunwyr ac adeiladwyr yn unig.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os ydych chi am wneud sylwadau ar y cais, e-bostiwch PCVLPACResponse@CAERFFILI.GOV.UK

Fel arall, gallwch chi ysgrifennu at:

Canolfan Dysgwyr Agored i Niwed Pontllan-fraith, Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gwasanaethau Eiddo, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG

Ni fydd sylwadau'n cael ymateb uniongyrchol ond, fel gofyniad statudol, bydd yr holl sylwadau'n cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r Cais Cynllunio ffurfiol.   

Ymholiadau

E-bostiwch YmatebCanolfanDysgwyrAgorediNiwed@CAERFFILI.GOV.UK

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

14/11/22

Canlyniadau disgwyliedig

Adroddiad Ymgynghori ar gyfer Cais, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r Cais Cynllunio ffurfiol.