Trosolwg
|
Mae Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif yn rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol. Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a'i nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.
Fel rhan o'r rhaglen hon, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwneud cais cynllunio ar gyfer sefydlu Canolfan Dysgwyr Agored i Niwed (Uned Cyfeirio Disgyblion) ar hen safle Ysgol Gyfun Pontllan-fraith. Bydd rhwng 80 a 120 o leoedd yn y cyfleuster newydd i ddisgyblion a bydd yn cynnwys cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel, darpariaeth chwaraeon dan do ac awyr agored yn ogystal â mynediad at gymorth o'r radd flaenaf, a bydd yn galluogi'r gymuned i ddefnyddio'r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.
Mae’r gofyniad i ymgymryd â phroses cyn ymgynghori yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad ‘mawr’ (llawn neu amlinellol fel sydd wedi'i ddiffinio yn erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012). Mae'r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a'u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori.
|
Ffyrdd o fynegi eich barn
|
Os ydych chi am wneud sylwadau ar y cais, e-bostiwch PCVLPACResponse@CAERFFILI.GOV.UK
Fel arall, gallwch chi ysgrifennu at:
Canolfan Dysgwyr Agored i Niwed Pontllan-fraith, Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gwasanaethau Eiddo, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
Ni fydd sylwadau'n cael ymateb uniongyrchol ond, fel gofyniad statudol, bydd yr holl sylwadau'n cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r Cais Cynllunio ffurfiol.
|