Ymunwch yn Nhrafodaeth Caerffili 2022

Teitl

Trafodaeth Caerffili Dweud eich dweud ar flaenoriaethau'r Cyngor

Dyddiad agor

12/01/2022

Dyddiad cau

13/02/2022

Trosolwg

Bob blwyddyn, mae'n rhaid i'r Cyngor baratoi cyllideb gytbwys sy'n darparu gwasanaethau hanfodol sy'n diwallu anghenion ein trigolion ni. Yn seiliedig ar yr wybodaeth rydyn ni wedi'i chasglu eisoes, rydyn ni wedi bod yn adolygu ein gwasanaethau ni i sicrhau ein bod ni'n cyflwyno'r hyn sydd bwysicaf i chi mewn modd effeithlon. Rhagor o wybodaeth yma.

Pam rydym yn ymgynghori?

Cyn cynllunio ein gwariant ni o ran y gyllideb ar gyfer 2022/23, rydyn ni eisiau gwybod a ydych chi'n meddwl ein bod ni'n dal ar y trywydd iawn. Mynnwch ddweud eich dweud nawr a mynegi eich blaenoriaethau a'ch arsylwadau chi i sicrhau ein bod ni'n rheoli ac yn blaenoriaethu'r cronfeydd cyfyngedig sydd ar gael i ni yn effeithiol.

Dogfennau

Ffyrdd o fynegi eich barn

Arolwg | Trafodaeth Caerffili 2022
Gallwch chi gael copïau papur o'r arolwg yn eich llyfrgell leol, a'u dychwelyd nhw yno.
Am help gyda llenwi'r arolwg neu i ofyn am fformatau eraill, anfonwch e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 864404.

Ymholiadau

YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

16/02/2022

Canlyniadau disgwyliedig

Cafodd canlyniadau'r ymgynghoriad eu bwydo i'r adroddiad ar y gyllideb i'w ystyried gan y Cabinet (23/02/2022) a'r Cyngor Llawn (24/02/2022).