Dweud eich dweud ar gyfnewidfa Caerffili arfaethedig

Teitl

Dweud eich dweud ar gyfnewidfa Caerffili arfaethedig

Dyddiad agor

28/09/2022

Dyddiad cau

26/10/2022

Trosolwg

Fel rhan o'r cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid tref Caerffili, rydyn ni'n gofyn am eich barn chi am y gyfnewidfa drafnidiaeth arfaethedig. Mae gorsaf drenau Caerffili ar fin cael ei huwchraddio yn gyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol newydd, yn amodol ar sicrhau cyllid. Mae disgwyl i'r gyfnewidfa drawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio i Gaerffili ac oddi yno. Bydd yn cysylltu pobl yn ddiymdrech â threnau, bysiau, tacsis ac opsiynau teithio llesol.

Pam ydyn ni’n ymgynghori?

Rydyn ni am i farn y gymuned chwarae rhan hanfodol yn nyluniad a gweithrediad y safle, gan sicrhau bod yr holl anghenion yn cael eu diwallu.

Dulliau i rannu safbwyntiau

I gwblhau'r arolwg neu i ddarganfod rhagor, ewch i https://caerphillyinterchange.commonplace.is/

Fel rhan o'r broses ymgynghori, bydd nifer o sesiynau ymgysylltu i roi cymorth i gwblhau'r arolwg. Bydd staff ar gael:

  • Dydd Gwener 30 Medi – Gorsaf Fysiau – 8.30-10.00am
  • Dydd Llun 3 Hydref – Llyfrgell – 11.00am – 12.30pm
  • Dydd Iau 6 Hydref – Coffi Vista – 1.00 – 2.30pm
  • Dydd Mercher 12 Hydref – Gorsaf Fysiau – 3.00 – 4.30pm
  • Dydd Gwener 14 Hydref – Llyfrgell – 9.30 -11.00am
  • Dydd Mercher 19 Hydref – Coffi Vista – 2.00-3.30pm

Ar gyfer preswylwyr sydd ag unrhyw ofynion penodol megis mynediad, dolen glyw, angen cyfleusterau cyfieithu neu sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y digwyddiad, cysylltwch â ni ar 07933174352 neu ymgynghori@caerffili.gov.uk.