Estyniad i Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod

Teitl

Estyniad i Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod, Ystrad Mynach CF82 7XW

Dyddiad agor

20/03/2023

Dyddiad cau

20/04/2023

Trosolwg

Mae'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, gynt) yn rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol fawr, hirdymor. Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a'i nod yw creu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.

Fel rhan o'r rhaglen hon mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer estyniad i Ysgol Cae'r Drindod o fewn cwrtil safle presennol yr ysgol.

Bydd yr estyniad deulawr arfaethedig yn darparu ystafelloedd ychwanegol sydd â lle ar gyfer 80 o ddisgyblion ychwanegol gyda mannau ymyrraeth arbenigol, ystafell chwarae meddal newydd a lleoedd chwarae awyr agored, yn ogystal â gardd goffa wedi'i hadleoli a rhandir i'r ysgol.

Pwrpas yr estyniad hwn yw sicrhau bod yr ysgol yn gallu bodloni'r galw cynyddol am leoedd, a diwallu anghenion newidiol a mwy cymhleth y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled y Fwrdeistref Sirol, nawr ac yn y dyfodol.

Bydd hyn yn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) newydd.

Bydd y pwll hydrotherapi presennol, y caffi, a'r cyfleusterau ychwanegol newydd ar gael at ddefnydd y gymuned ar adegau addas ac yn unol ag amserlen yr ysgol.

Mae'r gofyniad i ymgynghori cyn cyflwyno cais yn berthnasol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiad ‘mawr’ (llawn neu amlinellol fel y'i diffinnir yn erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012).

Mae'r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu cofnodi a'u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori.

Pam rydym yn ymgynghori?

Ymgynghoriad statudol i gael barn y gymuned ar ddatblygiad ysgol arfaethedig cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Mae'n ofyniad statudol i sicrhau bod y cais drafft ar gael i'w adolygu a rhoi sylwadau arno fe cyn ei gyflwyno'n ffurfiol ar gyfer cymeradwyaeth cynllunio.

Dogfennau

Mae'r dolenni isod yn rhoi mynediad at y dogfennau cais cynllunio drafft ar gyfer sylwadau cyn eu cyflwyno'n ffurfiol.

Dogfennau drafft:

Cynlluniau drafft

Penderfynwyd cyhoeddi'r dogfennau canlynol yn Saesneg yn unig oherwydd mai dogfennau technegol ydyn nhw, a ni chafodd ei hystyried yn rhesymol neu'n gymesur eu cyfieithu, yn unol â Safonau'r Gymraeg. Dogfennau technegol ydyn nhw ac maen nhw at ddefnydd y dylunwyr ac adeiladwyr yn unig.

Ffyrdd o fynegi eich barn

Os hoffech chi wneud sylw ar y cais, anfonwch e-bost i TFPACResponse@caerphilly.gov.uk

Fel arall, gallwch chi ysgrifennu at:

Ysgol Cae'r Drindod, Ymgynghoriad cyn cyflwyno cais, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gwasanaethau Eiddo, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

Ni fyddwch chi'n cael ymateb uniongyrchol i'ch sylwadau chi, ond, fel gofyniad statudol, bydd yr holl sylwadau yn ffurfio rhan o'r adroddiad ymgynghori cyn cyflwyno cais, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio ffurfiol.

Ymholiadau

Anfonwch e-bost i TFPACResponse@caerphilly.gov.uk

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

27/04/2023

Canlyniadau disgwyliedig

Adroddiad ymgynghori ar y cais, a fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais cynllunio ffurfiol.